Hwb ariannol i Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth
Mae Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £2,249,927 yn ddiweddar gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (NISCHR gynt) i arwain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), sef Canolfan Ymchwil Cymru gyfan.
Nod y ganolfan yw cael effaith sylweddol ar iechyd a lles poblogaeth Cymru trwy ymchwil gymhwysol.
Bydd y ganolfan yn gwneud Cymru yn un o’r gwledydd mwyaf blaenllaw yn y byd ym maes gwyddorau iechyd y boblogaeth drwy gynhyrchu sail tystiolaeth ar gyfer polisïau, gwasanaethau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd a gweithredu canfyddiadau ar raddfa sy'n cael effaith ar lefel y boblogaeth.
Bydd y ganolfan yn cydlynu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol aml-sefydliadol, amlddisgyblaethol, amlasiantaethol, cydweithio gyda pholisi ac ymarferwyr, a chynnwys y cyhoedd ar draws Cymru. Bydd hefyd yn ehangu cysylltiadau â grwpiau ymchwil iechyd y boblogaeth rhyngwladol a blaenllaw.
Dan arweiniad yr Athro Jane Noyes o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â'r Athro Ronan Lyons a thîm gweithredol o wyddonwyr o Brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor, a Prif Weithredwr Plant yng Nghymru a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd y ganolfan yn cydlynu ymchwil iechyd y boblogaeth am y tro cyntaf yng Nghymru.
Gan adeiladu ar feysydd o ragoriaeth wyddonol sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, themâu ymchwil craidd y ganolfan fydd:
• plant a phobl ifanc;
• hybu a chynnal iechyd trwy fywyd gwaith estynedig.
Bydd y ganolfan yn cyfrannu tuag at nodau polisi Cymru o roi dechrau iach a diogel mewn bywyd i mwy o blant, lleihau anghydraddoldebau ac ychwanegu rhagor o flynyddoedd o fywyd ansawdd uchel. Mewn oedolion, bydd yn canolbwyntio ar wella gweithgarwch corfforol a lles yn y boblogaeth gyffredinol a chefnogi ymchwil i arthritis, asthma, anhwylderau cardiofasgwlaidd, haint ac anafiadau.
Dywedodd yr Athro Jane Noyes: "Bydd ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor yn gwneud cyfraniad pwysig i waith y ganolfan, a bydd yn rhoi ffocws allweddol ar gyfer ymchwil iechyd y boblogaeth ar draws y Brifysgol ac yn genedlaethol."
Dywedodd yr Athro Catherine Robinson, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas: 'Rwyf wrth fy modd bod yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor yn cyfrannu at y project proffil uchel hwn. Bydd y dulliau a safbwyntiau gwyddorau cymdeithas yn cryfhau'r cydweithredu yn y ganolfan ymchwil newydd hwn i helpu i gael dealltwriaeth iawn o faterion iechyd y boblogaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015