Lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor
Mae'n bleser mawr gennym eich gwahodd i lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor, ddydd Gwener 20 Ionawr, 2017 am 4.00pm yn Narlithfa Eric Sunderland (MALT).
Yn dilyn sylwadau gan Dr Aled Llion Jones (Ysgol y Gymraeg) ar 'Arthur yng Nghymru – Arthur ym Mangor', bydd yr Athro Emeritws P. J. C. Field (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) yn siarad am 'Malory's Round Table'.
Traddodir y brif ddarlith, 'Portable Arthur: Why medieval legends are still relevant to us' gan yr Athro Raluca Radulescu (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg a sylfaenydd y Ganolfan).
Mae'r lansiad yn nodi dechrau 'Blwyddyn Chwedlau' 2017 yng Nghymru.
Yn dilyn y brif ddarlith, bydd derbyniad yn Ystafell Ddarllen Shankland, y Brif Lyfrgell. Cewch gyfle i weld arddangosfa o lyfrau prin Arthuraidd yng Nghoridor y Cyngor, yn ogystal ag arddangosfa ryngwladol ar-lein o ddeunydd Arthuraidd.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno. Os gwelwch yn dda cofrestrwch i fynychu'r agoriad.
Yr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Arthuraidd
Dr Aled Llion Jones, Ysgol y Gymraeg, Dirprwy Gyfarwyddwr
Sue Hodges, Pennaeth Gwasanaethau'r Llyfrgell; Dirprwy Gyfarwyddwr
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2017