Lansiad Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned
Ar Ddydd Iau, y 10fed o Awst am 10 o’r gloch yn yr Eisteddfod Genedlaethol lansiwyd y Pecyn Cymorth i Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned ym mhabell Prifysgol Bangor yng nghwmni Alun Davies, Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes. Lluniwyd y pecyn gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith Cymru. Mae'r pecyn yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ddulliau i hybu’r Gymraeg yn y gymuned. Casglwyd yr enghreifftiau hyn fel rhan o broject ymchwil mewn 8 cymuned wahanol yng Nghymru. Cyllidwyd y prosiect gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.
Roedd y project yma yn seiliedig ar astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2015, Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned. Fel rhan o’r astudiaeth honno fe gasglwyd data mewn 6 cymuned, sef Aberteifi, Aberystwyth, Bangor, Llanrwst, Porthmadog a Rhydaman fel rhan o werthusiad strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, Iaith fyw: iaith byw 2012-2017. Fe ychwanegwyd dwy gymuned i’r project presennol, sef Wrecsam a Chaerffili er mwyn cynnwys cymunedau Dwyrain Cymru.
Mae’r pecyn yn cynnwys dyfyniadau gan unigolion a sefydliadau sy’n weithgar yng nghymunedau'r astudiaeth ac yn cynnwys amrywiaeth o fathau o weithgareddau. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys grwpiau i gefnogi rhieni a phlant ifanc, gweithgareddau cyffroes i bobl ifanc, ac amrywiaeth o weithgareddau hamdden i bobl o oedrannau gwahanol. Bydd y pecyn yn cael ei osod fel e-lyfr ar wefan Mentrau Iaith Cymru ac ar gael i’r cyhoedd i’w lawr lwytho am ddim.
Yn ôl Dr Rhian Hodges: “Diolch i gyllid gan yr ESRC fe gawsom gyfle i ailymweld â’r cymunedau gan adrodd yn ôl i aelodau’r cyhoedd ac ymarferwyr am ganlyniadau’r astudiaeth wreiddiol. Roedd hyn yn gyfle i holi unigolion o’r cymunedau hyn am ddatrysiadau ac enghreifftiau o arfer da o ran hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu cymunedau. ”
Yn ôl Dr Cynog Prys, “Nod y pecyn yw tynnu at ei gilydd enghreifftiau diddorol o arfer da a fodolai wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn gymunedol. Y gobaith yw y bydd unigolion o gymunedau eraill yn gallu defnyddio’r enghreifftiau hyn fel ysbrydoliaeth wrth feddwl am ffurf i gynyddu’r defnydd o Gymraeg o fewn eu cymunedau.”
Croeso cynnes i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017