‘Life as an Attorney General of British Antarctica’
Cafodd Ysgol y Gyfraith Bangor ymweliad a darlith gan westai ddydd Gwener, 13 Mawrth 2020, sef 'Life as a Attorney General of British Antarctica' gan Mr James Maitland Wood QC, Twrnai Cyffredinol Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig. Addysgwyd Mr James Maitland Wood QC ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle astudiodd y Gyfraith a chafodd ei alw i'r Bar ym 1989 a'i benodi'n Gwnsler y Frenhines yn 2013. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn fargyfreithiwr tenant yn Cornwall Street Chambers yn Birmingham.
Mae Mr Maitland Wood QC hefyd yn Gwnsler Cyffredinol ar gyfer Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India (penodwyd ym mis Awst 2014), ac roedd yn Dwrnai Cyffredinol ar gyfer Montserrat (2008 - 2011), Twrnai Cyffredinol Anguilla (2011 - 2014) a Chwnsler y Goron yn St Lucia (2007 - 2008). Rhwng 2008 a 2014, roedd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Adolygu'r Gyfraith Ranbarthol yn Anguilla. Sefydlwyd y Ganolfan yn 2007 gyda chymorth yr Adran Datblygu Ryngwladol (DU), ac mae bellach yn gweithredu'n llwyddiannus heb gymorth ariannol ac yn darparu gwasanaethau adolygu'r gyfraith ledled y Caribî. Mae Mr Maitland Wood QC yn gwneud gwaith cyhoeddus a phreifat yn y Caribî, yn cynorthwyo sefydliadau diogelu'r amgylchedd ac yn rhoi cyflwyniadau mewn gweithdai'r Academi Ddiplomyddol ar gyfer y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Roedd y ddarlith yn cynnwys cynulleidfa drawsddisgyblaethol, gyda myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith Bangor, Ysgol Gwyddorau'r Eigion, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, a staff y brifysgol yn bresennol. Meddai Ms Chaynee Hodgetts, “Cawsom stori ddiddorol a threiddgar am lwybr ei yrfa, yn disgrifio'r llysoedd, prosesau cyfreithiol, a materion diogelu'r amgylchedd ym mhob rhan o'r byd - gan godi pwyntiau pwysig ar gydweithio yn y dyfodol i sicrhau cynnydd gyda nodau cyffredin cadarnhaol yn y meysydd hyn”.
Roedd clywed am hanes ei fywyd yn yr Antarctig - o bengwiniaid i deithio mewn awyren, yn un o amgylcheddau mwyaf heriol y byd - hefyd yn brofiad buddiol ac yn agoriad llygad. Yn gyffredinol, rhoddodd y ddarlith hon lawer o bethau i'r gynulleidfa gnoi cil arnynt, a chafwyd trafodaeth ar y berthynas rhwng Cyfraith Droseddol (Cyfraith Ddomestig a Chyfraith Droseddol Ryngwladol), Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Amgylcheddol, a Chyfraith y Môr. Mae pob un ohonynt yn feysydd arbenigol yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2020