Llwyddiant Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr i Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor
Mae canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2015 yn dangos llwyddiant aruthrol i'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.
Cafodd yr Ysgol sgôr boddhad cyffredinol rhagorol o 100% yn Archaeoleg a sgôr boddhad cyffredinol o 97% yn Hanes gan ei rhoi yn y 10 uchaf yn y DU am y ddau faes pwnc. Yn wir, Prifysgol Bangor yw'r GYNTAF yn y DU yn awr ym maes pwnc Archaeoleg.
Mae llwyddiant yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn adlewyrchu llwyddiant Prifysgol Bangor yn ei chyfanrwydd; mae'r Brifysgol yn parhau i fod yn y 10 uchaf yn y DU (ac yn GYNTAF yng Nghymru) am Foddhad Cyffredinol Myfyrwyr, ac am fesuriadau eraill yn cynnwys: Addysgu, Cefnogaeth Academaidd ac Asesu ac Adborth.
Daw’r canlyniadau o’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy’n graddio o bob prifysgol yn y DU ac sy’n rhoi’r adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
Meddai Pennaeth yr Ysgol, Dr Peter Shapely, “Mae hwn yn ganlyniad gwych. Mae'n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad yr holl aelodau staff wrth ymdrechu'n barhaus i ddarparu rhagoriaeth ym mhob agwedd ar addysgu a dysgu.
"Rydym yn cymryd profiad myfyrwyr o ddifrif, gan gynnwys myfyrwyr yn y prosesau gwneud penderfyniadau a pharhau i gynnal dialog agored bob amser. Mae cyfathrebu da ac amgylchedd dan arweiniad myfyrwyr wedi ein galluogi i fod yn sensitif ac ymateb i anghenion myfyrwyr."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2015