Mam yn dathlu ar ôl tair blynedd heriol
Bydd mam i bedwar o blant sydd wedi wynebu sialensiau yn ystod ei chyfnod gradd yn graddio’r wythnos hon mewn BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gadawodd Beverly Price ei gwaith er mwyn magu ei phlant, un sydd gydag awtistiaeth a phlentyn arall gyda nam ar y golwg. Ar ôl i’w phlant ddod i oed ysgol, gwnaeth Beverly gwrs yng Ngholeg Menai. Yno, cafodd ei hannog i roi cais i wneud gradd ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Beverly, o Amlwch: “Pan oedd y plentyn ieuengaf mewn addysg llawn amser, penderfynais fynd nôl i addysg fy hun. Roeddwn eisiau dangos i fy mhlant nad yw byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu.”
“Gan fod Bangor yn agos i fy nghartref, roedd y balans rhwng bod gyda’r teulu ac yn y brifysgol yn haws. Ond mae’n rhaid dweud ei fod yn waith bod yn wraig, gofalwraig ac yn fam i bedwar sydd yn gwneud gweithgareddau ar lefel cenedlaethol ar adegau!
“Yn ystod y flwyddyn gyntaf roedd fy mab a merch i mewn ac allan o’r ysbyty, ac yn ystod yr ail flwyddyn bu farw aelod agos o’r teulu. Ond roedd y gefnogaeth a gefais gan yr ysgol yn ystod y cyfnod yma yn gymorth mawr.”
Fel nad oedd hyn y ddigon, roedd Beverly yn gweld y gwaith ysgrifenedig yn sialens gan ei bod gyda dyslecsia.
Dywedodd Beverly, 38: “Ni fuaswn wedi gallu graddio eleni gyda 2:1 heb y cymorth a gefais gan diwtoriaid Ganolfan Dyslecsia Miles, Gwyddorau Cymdeithasol a’r gweinyddwyr. Maen nhw wedi bod yn anhygoel! Nid yw wedi bod yn hawdd, ond rwyf wedi gwneud ffrindiau am byth, ac wedi dysgu fy mhlant ei bod yn bosib llwyddo mewn bywyd os ydynt yn gweithio’n ddigon caled.”
Bydd Beverly yn cymryd blwyddyn i ffwrdd i gynilo er mwyn gwneud gradd Feistr.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2014