Marie Stein (11 April 1929 - 16 July 2016) - gan Gabriel Stein
Marie Stein (11 April 1929 - 16 July 2016) - gan Gabriel Stein
Cynhelir darlith ar-lein gan Brifysgol Bangor i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost 2021, brynhawn Mercher 27 Ionawr, rhwng 1 - 2 o'r gloch.
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 yw byddwch yn oleuni yn y tywyllwch.
Y siaradwr fydd Gabriel Stein, fydd yn sôn am sut bu i deulu ei fam fyw trwy'r Holocost. Ganwyd mam Gabriel, Maria, yn Łódź yng ngorllewin Gwlad Pwyl. Rhwng mis Rhagfyr 1939 a mis Mehefin 1941, symudodd y teulu i Warsaw, cawsant eu rhoi yn y geto yno maes o law, ac yna cawsant eu symud yn ôl i geto Łódź (Litzmannstadt) ym mis Mehefin 1941 hyd nes cawsant eu rhyddhau ym mis Ionawr 1945.
Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost wedi cael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig ers 2001, gyda dros 7,700 o weithgareddau lleol yn cael eu cynnal ar 27 Ionawr neu'n agos at y dyddiad hwnnw bob blwyddyn. Dyma'r ddeuddegfed flwyddyn yn olynol iddo gael ei gynnal yng Ngwynedd. Rhwng 1941 a 1945, ceisiodd y Natsïaid ddifa holl Iddewon Ewrop. Gelwir yr ymgais systematig hon i ladd holl Iddewon Ewrop yn Holocost (y Shoah yn Hebraeg). O'r amser y daethant i bŵer ym 1933, defnyddiodd y Natsïaid bropaganda, erledigaeth a deddfwriaeth i gymryd hawliau dynol a sifil oddi ar Iddewon. Gwnaethant ddefnyddio canrifoedd o wrth-Semitiaeth fel sylfaen. Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o Iddewon, yn ddynion, merched a phlant, wedi marw mewn getoau, mewn saethu torfol, mewn gwersylloedd crynhoi ac mewn gwersylloedd difa.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â'r Athro Nathan Abrams, n.abrams@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2021