Mis o lwyddiant i Hanes
Gwahoddwyd tri aelod staff o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg i fynychu Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor ar Ebrill 30ain yn Neuadd PJ, gan eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dau o’r prif gategorïau.
Roedd Dr Mark Hagger a Dr Dinah Evans ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol, ac enillodd Dr Mari Elin Wiliam y categori Athro’r Flwyddyn. Ymunwyd â hwy yn y Gwobrau gan bedwar o fyfyrwyr is-raddedig - Alice Lovell, Hannah Pickering, Daniel Herbert and Harriet Weller – sef rhai o’r myfyrwyr oedd wedi eu henwebu.
Yn ychwanegol, roedd Vicky Allen – Cynrychiolydd Cwrs Hanes Blwyddyn 3 – ar y rhestr fer ar gyfer y dosbarth Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn. Dilynai hyn yn glos ar ei llwyddiant yn ennill y teitl Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn.
Dywedodd Dr Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol:
“Rwy’n hynod o falch o lwyddiant Vicky: mae dod i’r brig ymysg 400 o arweinwyr cyfoed y Brifysgol, ac yna cael ei chydnabod am ei hymroddiad fel cynrychiolydd cwrs ,yn gamp hynod o nodedig. Mae’n haeddiannol dros ben.
“Yn ychwanegol at lwyddiannau Vicky, rwy’n ymfalchïo yn y gydnabyddiaeth a dderbyniodd Mark, Dinah a Mari yn y Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr. Dengys hyn y brwdfrydedd a’r egni sy’n cael ei ymroddi gan ein haelodau staff i’w dysgu ac i’w myfyrwyr, ac mae’n nodweddu’r gymuned glos a gofalgar sydd gennym yn yr Ysgol Hanes.
“Hoffai pawb ohonom ymestyn ein diolchiadau llwyraf i’r myfyrwyr a roddodd amser ac ymdrech i enwebu aelodau staff o’r Ysgol.”
Mae manylion pellach am Wobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2014, ynghyd â galeri luniau o’r Gwobrau, ar gael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2014