Myfyriwr arobryn yn graddio
Ar ôl perfformiad cryf drwy gydol ei astudiaethau, mae myfyriwr arobryn o Brifysgol Bangor wedi graddio’r wythnos hon.
Yn ogystal â graddio gyda gradd BA Hanes dosbarth cyntaf, enillodd Sean Martin, 27, wobr Dr John Robert Jones sy’n werth £1,500, a ddyfernir yn flynyddol i dri o'r myfyrwyr gorau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol.
Dywedodd Sean: “Rydwyf wedi mwynhau’r cwrs, ac wedi gwir mwynhau gwneud y traethawd hir ac yr oedd y profiad o wneud ymchwil yn grêt. Roedd y staff yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn wych. Yr uchafbwynt oedd treulio amser yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Llundain, fe wnes i fwynhau’r awyrgylch academaidd.”
Dywedodd Dr Mari Wiliam, goruchwyliwr traethawd hir Sean : “Roedd perfformiad Sean yn arbennig o gryf ym mhob modiwl, ond yn arbennig felly yn y traethawd hir. Nododd adborth y traethawd hir fod y gwaith o safon cyhoeddadwy, ac ymhlith y gwaith gorau yr oedd y marcwyr mewnol ac allanol wedi'i weld gan fyfyriwr israddedig.
“Roedd y traethawd hir wedi'i seilio ar John Smith, arweinydd y Blaid Lafur rhwng 1992 a 1994, cyn iddo farw'n ddisymwth o drawiad calon. Archwiliai gwaith Sean rôl John Smith fel moderneiddiwr, a'r modd y cafodd ei neilltuo o hanes gan Lafur Newydd.
“Dyma draethawd hir gwefreiddiol, sydd yn taclo cyfnod arwyddocaol yn hanes gwleidyddol cyfoes Prydain, ac yn ei ddadansoddi'n hynod o soffistigedig. Mae gan Sean yrfa ysgolheigaidd ddisglair o'i flaen, ac mae gwreiddioldeb ei syniadau'n gyffrous tu hwnt.”
Dywedodd Dr Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol: “Llongyfarchiadau mawr i Sean ar ei lwyddiant yn ennill y wobr Dr John Robert Jones. Mae'r Ysgol yn falch ofnadwy o'i berfformiad ardderchog, ac yn edrych ymlaen at ei groesawu'n ôl atom i wneud MA yn yr hydref.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016