Myfyriwr i redeg Marathon Llundain
Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor ymhlith y miloedd o redwyr sy’n cymryd rhan ym Marathon Llundain fis Ebrill. Mae Leo Atkinson, myfyriwr y flwyddyn gyntaf Hanes ac Archaeoleg yn codi arian ar gyfer elusen St John Ambulance.
Mae Leo, sy’n 20 ac o Worcester, yn brysur yn paratoi ar gyfer y marathon. Mae’n rhedeg 36 milltir yr wythnos yn ogystal ag hyfforddi yng nghampfa Maes Glas y Brifysgol.
Bydd rhedeg y marathon yn gwireddu breuddwyd oes i Leo. Meddai, “Marathon Llundain yw’r marathon mwyaf yn y wlad ac mae’n rhywbeth y mae rhan fwyaf o redwyr eisiau bod yn rhan ohono.
“Rwy’n rhedwr brwd ac rwy’n arbennig o hoff o redeg pellteroedd mawr. Cymerais ran yn hanner marathon Birmingham yn 2010, ond gan nad ydwyf wedi cystadlu ers hynny, doeddwn i ddim yn rhedeg gymaint, gan nad oedd gen i rywbeth i anelu tuag ato.
“Mae rhedeg marathon lawn wedi bod yn uchelgais i mi, a mis Hydref diwethaf gwelais for St John Ambulance yn chwilio am redwyr i gymryd rhan ym Marathon Llundain.
“Rwyf wedi gwirfoddoli fel cymhorthydd cyntaf i St John ers Hydref 2011 ac mae’n sefydliad gwych sy’n dysgu sgiliau cymorth cyntaf i blant ac oedolion, rhai ohonynt sydd yna’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau wrth ochr y gwasanaethau brys. Mae’r elusen yn ddibynnol ar roddion i gyflawni eu gwaith ac i roi’r sgiliau i bobl ag all achub bywyd. Dyma pan rwy’n falch iawn o allu rhedeg i godi arian iddynt. Rwy’n gwireddu breuddwyd i redeg marathon, wrth godi arian at achos da.”
Disgrifiodd Leo sut deimlad oedd hi i glywed ei fod wedi ei ddewis i redeg ar gyfer yr elusen, “Pan gefais alwad ffôn yn dweud bod fy nghais yn llwyddiannus, roeddwn i wedi gwirioni. Doeddwn i brin yn gallu siarad ar y ffôn!
“Ar ôl hynny dechreuais deimlo ychydig yn betrusgar am yr holl hyfforddiant ond alla’i ddim disgwyl i gymryd rhan yn un o’r rasys mwyaf yn y byd!
“Ar hyn o bryd rwy’n ymarfer pum diwrnod yr wythnos, sy’n cynnwys rhedeg bryniau, treialon amser a sesiwn redeg hir ar ddydd Sul. Rwyf hefyd yn ymarfer ym Maes Glas.
“Rwy’n rhedeg tua 36 milltir yr wythnos ar hyn o bryd ond bydd hyn yn cynyddu’n raddol dros y ddau fis nesaf i 48 milltir yr wythnos. Dydy o ddim yn ormod o broblem i gyfuno ymarfer ac astudio ar y funud, ond mae’n debygol fydd hyn yn newid wrth i’r marathon agosáu.”
Mae Leo’n anelu i godi o leiaf £1,625 i St John Ambulance ac mae wedi ffilmio fideo i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith fod o’n rhedeg y marathon.
Meddai Leo, “Penderfynais i wneud fideo am ei fod yn ffordd dda i adael i bobl wybod am yr hyn rwy’n ei wneud a gobeithio bydd o’n help i mi godi arian.
“Rwy’n dipyn o ffan o Superman a gyda’r ffilm newydd yn dod allan eleni o’n i’n meddwl bysa’n hwyl i selio fy fideo ar y trêl ar gyfer y ffilm. Roeddwn i eisiau i’r fideo fod yn hwyliog ag yn ‘spoof’ ond i gyfleu’r neges am yr hyn rwy’n ei wneud. Cafodd y fideo ei ffilmio gan fy mrawd sy’n rhedeg cwmni cynhyrchu.”
- I wylio fideo Leo, ewch i http://www.youtube.com/watch?v=nIr3izmIqts&feature=youtu.be
- I noddi Leo, ewch i www.virginmoneygiving.com/leoatkinson
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2013