Myfyriwr PhD yn cipio gwobr poster mewn symposiwm
Llongyfarchiadau i'r myfyriwr ymchwil Stephanie Jones am ennill gwobr 'y poster ôl-raddedig orau' mewn symposiwm ymchwil diweddar.
Cyflwynodd Stephanie, sy'n 25 mlwydd oed ac yn dod o Gaernarfon, ei phoster am ferched a'r rheilffyrdd i'r symposiwm ‘Gender yng Nghymru Ddoe a Heddiw’, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe ar 7 Mehefin 2017.
Daeth y gynhadledd, a gynhaliwyd ar y cyd â Gwasg Prifysgol Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ag ystod o academyddion ac ysgolheigion gyrfa gynnar amlddisgyblaeth o Gymru ynghyd i rannu syniadau, damcaniaethau a dealltwriaeth o gender yng Nghymru.
Seiliwyd poster Stephanie ar ganfyddiadau ei hymchwil PhD, sy'n ystyried gwirfoddolwyr ym maes rheilffyrdd treftadaeth yng Nghymru. Ei gwobr oedd gwerslyfr wedi'i olygu gan Michael R Ward, o'r enw "Gender identity and research relationships: Studies in qualitative methodology, volume 14"
Cyllidir PhD Stephanie mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017