Myfyrwraig Archaeoleg yn ennill Gwobr Astudiaethau Celtaidd Ewropeaidd
Mae Greta Anthoons, myfyrwraig hŷn o Wlad Belg sy’n astudio am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Johann Kaspar Zeuss yng Nghymdeithas Astudiaethau Celtaidd Ewropeaidd (Societas Celtologica Europaea). Rhoddir y wobr o €750 i’r traethawd hir gorau ar lefel MA a PhD ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Bu Greta Anthoons yn astudio o dan yr Athro Raimund Karl yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, a chyflwynodd ei thraethawd hir ym 2011 ar y pwnc ‘Migration and elite networks as modes of cultural exchange in Iron Age Europe: a case study of contacts between the Continent and the Arras Culture’.
Meddai’r Athro Raimund Karl: “Yr hyn sy’n arbennig o galonogol i ni yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yw mai dyma’r tro cyntaf i’r wobr gael ei dyfarnu i ddoethuriaeth sy’n delio gyda phwnc archeolegol, sydd hefyd yn defnyddio ffynonellau hanesyddol hynafol, a ffynonellau llenyddol o’r oesoedd canol. Mae hyn yn dangos cryfder cyffredinol yr Astudiaethau Celtaidd rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Bangor.”
Mae Greta Anthoons yn gweithio’n rhan amser gyda chwmni ymgynghorol ym Mrwsel ac yn treulio gweddill ei hamser yn parhau gyda’i hymchwil a’i hastudiaethau. Penderfynodd astudio ar gyfer doethuriaeth o dan arweiniad yr Athro Raimund Karl ar ôl ei gyfarfod mewn cynhadledd astudiaethau Celtaidd. Roedd Dr Anthoons yn hoffi ei agwedd at archaeoleg ac yn meddwl y byddai’n ddifyr iawn astudio am PhD o dan ei arweinyddiaeth. Llwyddodd i astudio ar gyfer y ddoethuriaeth trwy weithio’n annibynnol a dod i Brifysgol Bangor yn achlysurol yn ystod y flwyddyn i weithio yn y llyfrgell ac i drafod ei gwaith gyda’r Athro Karl.
Meddai Greta “Roed Yr Athro Karl a’i wraig yn ffantastig ac rwy’n wir ddiolchgar am eu croeso. Roeddwn hefyd wrth fy modd gyda’r awyrgylch braf yn y llyfrgell a’r staff a oedd mor barod i helpu. A dweud y gwir, mae Bangor yn lle gwych i astudio.”
Ychwanegodd: “Mae pwnc fy nhraethawd yn rhyngwladol, felly hefyd y cyfranwyr: rwyf i’n dod o Wlad Belg, mae fy ngoruchwyliwr o’r Awstria ac mi gyflawnais fy noethuriaeth yng Nghymru!”
Esboniodd bod ei hastudiaeth am batrymau claddedigaethau cerbydau rhyfel yn niwylliant Oes yr Haearn yn Nwyrain Swydd Efrog wedi dangos cyswllt cryf gyda’r cyfandir. Daeth i’r canlyniad mai rhyngwladoli oedd y gair allweddol ar ddechrau’r drydedd ganrif cyn Crist, cyfnod pan oedd syniadau a thechnolegau’n cael eu lledaenu’n gyflym dros bellteroedd maith, pan ddaeth rhwydweithiau cymdeithasol yn fwy cymhleth ac roedd y byd yn ymddangos yn llai. Fodd bynnag, roedd y cyfnewid rhwng dwyrain Swydd Efrog a’r cyfandir yn digwydd ym maes defodau yn bennaf, ac nid cymaint mewn agweddau eraill ar fywyd, fel arfau neu arddulliau celf. Mae hyn yn awgrymu efallai bod derwyddon a gwŷr dysgedig eraill wedi chwarae rhan yn cyflwyno arferion claddu i ddwyrain Swydd Efrog.
“Nid mudo oedd yr unig fath o symudedd yn Ewrop yn ystod Oes yr Haearn; roedd rhai unigolion yn teithio pellteroedd maith, ac nid am resymau economaidd o reidrwydd. Crëwyd rhwydweithiau cymdeithasol, ac yn fwy penodol rhwydweithiau elitaidd, drwy ddulliau fel priodasau strategol, bod dan ofal noddwr, cymryd gwystlon ac efallai maethu. Wrth gymharu’r data archeolegol o ddwyrain Swydd Efrog gyda’r dystiolaeth o ranbarthau eraill yng ngogledd Gaul, daw’n glir bod y rhwydweithiau hyn yn cynnig esboniad boddhaol.”
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2012