Myfyrwraig o'r Rhyl yn ennill dosbarth cyntaf a gwobr er gwaethaf trychineb llifogydd 2013
Bydd myfyrwraig o'r Rhyl yn derbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon er i'r llifogydd enbyd a darodd arfordir gogledd Cymru yn 2013 ddifrodi ei chartref.
Mae Davina Stanley, cyn fyfyrwraig 20 oed o Goleg Llandrillo, yn edrych ymlaen yn fawr at raddio ac mae'n barod i ddechrau'r bennod nesaf yn ei bywyd. Yn ystod y seremoni raddio, bydd Davina hefyd yn derbyn Gwobr Goffa Charles Mowat o £100. Sefydlwyd y wobr yn 1983 er cof am y diweddar Athro Charles Mowat, Athro Hanes yn y Brifysgol o 1958 tan 1970. Rhoddir y wobr i'r myfyriwr mwyaf teilwng sy'n graddio gydag Anrhydedd mewn Hanes yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.
Meddai Davina am ei champ: "Dwi wrth fy modd. Fe wnes i ymroi'n llwyr efo fy astudiaethau ac mae gweld yr ymdrech honno'n talu'i ffordd yn y diwedd yn golygu popeth i mi. Mae'n fy ysgogi i gael yr un ymroddiad efo popeth y byddaf yn ei wneud yn y dyfodol.
"Dwi wedi cael fy nysgu i geisio fy ngorau ym mhob peth. Dwi'n gosod amcanion clir i mi fy hun ac roedd dod i brifysgol yn rhan o'u cyflawni. Cyn i fy mam fynd yn anabl, a fy nhad yn dod yn ofalwr llawn-amser drosti, roedden nhw ill dau wedi gweithio'n galed a chyflawni cymaint. Fe wnaeth amgylchiadau fynd â hynny i gyd oddi arnyn nhw a dim ond fi sydd ganddyn nhw erbyn hyn. Dwi wedi bod yn ymroddgar a phenderfynol erioed ac fe wna i weithio'r un mor galed â fy rhieni i sicrhau llwyddiant. Fy nod ydi dod â pharch a llwyddiant i fy nheulu a bod yn rhywun y gallant fod yn falch ohoni.
"Uchafbwynt fy nghyfnod ym Mangor oedd gweithio gyda chymaint o ysgolheigion rhyfeddol ac roedd yn anrhydedd gwirioneddol cael fy nysgu ganddyn nhw. Byddaf yn cofio weddill fy oes am ymroddiad a brwdfrydedd rhai darlithwyr a byddaf yn ceisio eu hefelychu yn fy ngyrfa ym myd addysg yn y dyfodol."
Meddai Dr Mari William o'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg: "Mae camp Davina'n graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ac ennill y wobr i'r myfyriwr israddedig gorau mewn Hanes hyd yn oed yn fwy rhyfeddol o gofio bod ei chartref yn Y Rhyl yn un o 400 o dai yn y dref a gafodd ei ddifrodi gan y llifogydd enbyd ddechrau Rhagfyr 2013. Felly, yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi gorfod ymdopi â'r difrod a achoswyd i gartref y teulu ac er gwaethaf hynny mae wedi llwyddo i wneud gwaith rhagorol a chyflawni ei hastudiaethau i safon mor uchel."
Camau nesaf Davina yw dilyn cwrs hyfforddi athrawon ac mae'n gobeithio cael swydd wedyn fel athrawes gynradd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014