Owain Jones yn ennill gwobr arobryn y Brethynwyr
Llongyfarchiadau i Owain Jones am ennill medal uchaf Cwmni’r Brethynwyr am gyfraniad ôl-radd eithriadol gan fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hon yn wobr o fri, sy’n rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.
Yn ddiweddar cwblhaodd Owain ei draethawd PhD yn llwyddiannus ar ysgrifennu hanesyddol yng Nghymru’r oesoedd canol, ac ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Dysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeolg. Mae Cwmni’r Brethynwyr yn un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol dinas Llundain, sydd bellach yn gweithredu fel mudiad dyngarol. (14.02.14)
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2014