Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’
Bydd syniadau arloesol ar sut i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y Gymuned yn cael eu rhannu mewn Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’ nos Fercher 25ain o Hydref, 6.30-8yh, yng Nghanolfan Popdy Menter Iaith Bangor, Lôn Bopty, Bangor.
Yn ystod y drafodaeth bydd arbenigwyr sydd yn ymwneud â hybu’r Gymraeg yn gymunedol, ar lefel lleol a chenedlaethol, yn rhannu syniadau newydd sy’n cael eu defnyddio gan grwpiau cymunedol a busnesau.
Nod y digwyddiad yw trafod yr heriau a’r datrysiadau posib a geir wrth geisio hybu’r Gymraeg yn y gymuned, gyda sylw arbennig ar hybu’r Gymraeg ymhlith rhieni â phlant ifanc, pobl ifanc, grwpiau hamdden a dysgwyr.
Meddai Dr Rhian Hodges o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, prif drefnydd y noson:
“Dyma gyfle gwych i ehangu a datblygu ymhellach y Pecyn Cymorth i Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned a lansiwyd yn ystod yr haf. Mae’n gyfle i arbenigwyr rannu syniadau ac arfer da er mwyn hybu’r Gymraeg yn gymunedol. Mae’n fuddiol i academyddion ac ymarferwyr ddod at ei gilydd i drafod strategaethau cynllunio ieithyddol a sut maent yn gweithio’n ymarferol ar lawr gwlad.”
Meddai ei chyd-ymchwilydd a chyd-drefnydd y digwyddiad, Dr Cynog Prys, hefyd o Brifysgol Bangor:
“Mae’n wych cael sefydliadau o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat i gymryd rhan yn y panel yma. Mae gan y ddau sector ran bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo defnydd iaith yn gymunedol. Hwn yw’r cyntaf o ddau banel trafod sy’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Popdy fel rhan o gyfres Popdy Trafod Iaith newydd gan Brifysgol Bangor a Menter Iaith Bangor i drafod materion ieithyddol yn y gymuned.”
Cyllidwyd y Pecyn Cymorth a’r Panel Trafod gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC Prifysgol Bangor yn seiliedig ar bartneriaeth gyda Mentrau Iaith Cymru. Mae’r Pecyn yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ddulliau i hybu’r Gymraeg yn y gymuned, gan gymryd enghreifftiau o wyth ardal ledled Cymru: Bangor, Porthmadog, Llanrwst, Wrecsam, Aberystwyth, Aberteifi, Rhydaman a Chaerffili.
Bydd y Panel yn rhan o gyfres Popdy Trafod Iaith Menter Iaith Bangor. Bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei darparu.
Yn cymryd rhan yn y Panel Trafod mae:
- Menter Iaith Conwy
- yr Urdd
- y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Amser Babi Cymraeg (ABC)
- Siarter Iaith Gymraeg Gwynedd
- Meithrinfa Ffalabalam
Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bodedern.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2017