Penodi'r Athro Peter Huxley i Grŵp Uwch Arweinwyr Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Llongyfarchiadau i'r Athro Peter Huxley, sydd wedi ei benodi i Grŵp Uwch Arweinwyr Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae gan y grŵp uwch-ymchwilwyr gynrychiolydd ar fwrdd gweithredol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd yn ei dro yn gartref i'r Ysgol Gofal Iechyd (Cymru). Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu isadeiledd i gefnogi a chynyddu gallu mewn ymchwil a datblygu er mwyn canolbwyntio ar feysydd rhagoriaeth sy'n bodoli eisoes a rhai sy'n ymddangos o'r newydd. Mae'n anelu at sicrhau dull cyfun Cymru-gyfan o ymchwil i ymarfer ar sail tystiolaeth.
Gyda chydweithiwr yn yr Ysgol, Dr Alison Orrell, Uwch Gymrawd Ymchwil, mae'r Athro Huxley yn aelod o grŵp tasg a gorffen sy'n edrych ar y cyfathrebu rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r sector gofal cymdeithasol er mwyn cynnwys y sector wrth gefnogi a lledaenu ymchwil. Mae hwn yn benodiad mawr ac yn adlewyrchu ei gyfraniad i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2016