Peter Huxley i barhau fel Cymrawd Ymchwil ar Ymweliad yn LEWI
Mae'r Athro Peter Huxley o'r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas wedi cael statws cymrawd ymchwil ar ymweliad gan y David C Lam* Institute for East-West Studies (LEWI) am ddwy flynedd arall.
Cafodd y Sefydliad ei sefydlu yn 1993 gan 28 o brifysgolion ledled y byd, ac mae wedi ei leoli yn yr Hong Kong Baptist University. Ymhlith y prifysgolion sy'n cydweithio mae Prifysgolion Amsterdam, Baylor, Lanzhou, Leeds, Lund, Ohio, Peking, Shanghai, Western Sydney a Wuhan.
Mae gan y Sefydliad dri gweithgor, ar Drefoli a Mudoledd, Astudiaethau Traws-ddiwylliannol, a'r Amgylchedd, Iechyd a Chynaliadwyedd. Ar yr olaf o'r rhain y mae'r Athro Huxley wedi bod yn gweithio dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Cyfarwyddwr y gweithgor yw Kara Chan, sy’n Athro Astudiaethau Cyfathrebu. Mae'r Athro Marcus Chiu, gynt o’r National University of Singapore, ynghyd â Peter a Kara, wedi gwneud ymchwil i gynhwysiant cymdeithasol pobl â phroblemau iechyd meddwl, ac i fewnfudwyr yn Hong Kong, Singapore ac Abertawe. Gwnaed ymchwil yn defnyddio SCOPE (sef Social and Community Opportunities Profile) yn Iwerddon, a gyda chymunedau Tsieineaidd ym Manceinion a Lerpwl, ac mae ychwaneg o ymchwil yn cael ei gynnal ym Mrasil (Sao Paulo) ac yng Ngwlad Pwyl. Mae gan Jussara Dos Santos, nyrs o'r Sao Paulo University School of Nursing, grant i gwblhau gwaith ar fersiwn Brasil o SCOPE, am chwe mis eleni ym Mangor.
*David C Lam oedd Dirprwy Lywodraethwr Columbia Brydeinig, a'i dad Lam Tsz Fung oedd sylfaenydd a llywydd cyntaf yr Hong Kong Baptist College, sydd bellach yn brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017