Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru - Rhaglenni Gradd yr Heddlu
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi eu cydweithrediad ar Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) a ddatblygwyd gan y College of Policing.
Ymunodd Prifysgol Bangor â phroses gomisiynu gystadleuol a llwyddodd i wneud cais am y contract gyda Heddlu Gogledd Cymru ar sail ei hymrwymiad i addysgu rhagorol a'i enw da mewn perthynas ag addysgu ac ymchwil mewn plismona.
Mae Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu Prentisiaethau Gradd newydd Cwnstabl yr Heddlu a'r Rhaglen Mynediad Deiliaid Gradd ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd ar gael i Gwnstabliaid sydd newydd eu recriwtio o 2020.
Mae hwn yn gynllun ledled Cymru a Lloegr sy'n darparu cydnabyddiaeth ffurfiol am y sgiliau a ddangosir gan weithwyr proffesiynol yr heddlu heddiw, a'r gofynion a roddir arnynt gan amgylchedd gwaith cynyddol gymhleth.
Bydd recriwtiaid newydd nad oes ganddynt radd yn astudio ar gyfer Prentisiaeth Gradd Cwnstabl yr Heddlu (PCDA) sydd fel rheol yn cymryd tair blynedd i'w chwblhau. Yn ystod yr amser hwnnw, bydd cwnstabliaid yr heddlu yn cyfuno eu dysgu academaidd â dysgu ac asesu mewn gweithle, a byddant yn cael eu cymeradwyo ar gyfer patrôl annibynnol.
Bydd recriwtiaid newydd sydd eisoes â gradd yn astudio ar gyfer Rhaglen Deiliaid Gradd yr Heddlu (DHEP) sydd fel rheol yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Yn ystod yr amser hwnnw, bydd cwnstabliaid yr heddlu yn cyfuno eu dysgu academaidd â dysgu ac asesu mewn gweithle, a byddant yn cael eu cymeradwyo ar gyfer patrôl annibynnol.
Mae'r ddwy raglen ddysgu llwybr mynediad newydd hon gan yr Heddlu yn arwain at Radd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol neu Ddiploma i Raddedigion mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol.
Croesawodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes y bartneriaeth newydd. Dywedodd: “Un o ysgogwyr allweddol Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu yw i addysg broffesiynol a phlismona gweithredol eistedd ochr yn ochr. Mae hwn yn ddull newydd o blismona ac rwy'n falch iawn o weithio gyda Phrifysgol Bangor i gynnig hyn i'n recriwtiaid newydd."
Dywedodd Yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru i gynnig arbenigedd addysgu ac ymchwil i addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yr heddlu. Mae'r fenter newydd hon yn ategu ein portffolio presennol o raglenni addysg broffesiynol ac rydym yn hyderus y bydd y rhaglenni gradd newydd yn cyfrannu at weithlu cynaliadwy, proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi'n dda.
Mae Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn datblygu'r rhaglen newydd mewn ysbryd cwbl gydweithredol ac rydym yn hyderus y bydd y bartneriaeth hon yn dod â buddion i'n sefydliadau a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019