Prifysgol Bangor yn uchel yng ngraddau’r Times Higher Education ym mhynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau
Mae cyrsiau’r celfyddydau a'r dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor wedi cael eu gosod ymysg y 250 uchaf ledled y byd ac yn ail yng Nghymru yn y Times Higher Education (THE) World University Rankings 2018 fesul pwnc a ryddhawyd heddiw.
Mae’r tabl celfyddydau a'r dyniaethau 2018 yn rhestru prifysgolion gorau’r byd ar draws eu cenhadaeth - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agweddau rhyngwladol.
Mae’r cyrsiau yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau o Hanes i Lenyddiaeth Saesneg gyda chyrsiau mewn Archaeoleg, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Ffrangeg, Astudiaethau Iberaidd, Newyddiaduraeth, Ieithyddiaeth, Cerddoriaeth ac Athroniaeth, i gyd yn sicrhau boddhad o 100% yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017.
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Deon, Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau: "Rydym wrth ein bodd bod ansawdd uchel ein darpariaeth yn y celfyddydau a'r dyniaethau wedi cael ei gydnabod yn y tabl yma. Rwy’n llongyfarch ein cydweithwyr ar draws y Coleg sydd wedi cyfrannu at ein henw da am ymchwil ac addysgu o’r safon ryngwladol uchaf yn y meysydd hyn. Edrychwn ymlaen at groesawu ein myfyrwyr newydd a’r myfyrwyr sy’n dychwelyd yr wythnos nesaf."
Yn gynharach yn y mis, cadwodd Prifysgol Bangor ei safle fel un o’r 350 o brifysgolion gorau’r byd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn ôl y Times Higher Education World University Rankings. Yn ogystal â hyn, mae Prifysgol Bangor wedi ei gosod ymhlith y 10% uchaf o brifysgolion y byd am ei Bydolwg Rhyngwladol.
Yn gynharach eleni, dyfarnwyd safon Aur i’r Brifysgol am ansawdd ei haddysgu yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Llywodraeth y DU – yr unig brifysgol yng Nghymru i dderbyn y safon uchaf yma.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2017