Prifysgol Lodz yn ymweld â'r Ysgol
Daeth dau o academyddion o Gyfadran y Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Lodz, Gwlad Pwyl i ymweliad â'r ysgol yn ddiweddar. Trefnwyd yr ymweliad o dan y cytundeb symudedd staff Erasmus sydd gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol â Lodz. Mae gan yr Ysgol ddau bartner yng Ngwlad Pwyl ac un o'r rheiny yw Lodz.
Yn ystod eu hymweliad, bu Dr Anna Jarkiewicz a'r Athro Mariusz Granosik yn dysgu ar y modiwlau is-raddedig ac ôl-raddedig. Roedd eu sesiynau'n canolbwyntio ar y gwaith ymchwil gwreiddiol a wnaethent ar dlodi a digartrefedd yng Ngwlad Pwyl.
Pe hoffai unrhyw aelod o'r staff neu fyfyrwyr ymweld â Phrifysgol Lodz, cysylltwch â Chydlynydd Rhyngwladol yr Ysgol, Dr Hefin Gwilym.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2018