Proffil Graddio: Gwenlli Thomas
Daw Gwenlli Thomas, 21, o Chwilog ger Pwllheli. Yn gyn-fyfyrwraig o Goleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli, mae Gwenlli wedi graddio gyda gradd BA (cydanrhydedd) Cymdeithaseg a Chymraeg.
Cefndir:
Rwy’n ferch fferm o Chwilog ger Pwllheli. Cefais fy addysg gynradd yn Ysgol Chwilog cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Glan y Môr a Choleg Meirion-Dwyfor Pwllheli. Roeddwn i’n sicr o oedran ifanc fy mod eisiau astudio Cymraeg yn y Brifysgol – roeddwn i wrth fy modd gyda gwersi Cymraeg yn yr ysgol ac mae’r iaith a’i diwylliant yn bwysig iawn i mi. Penderfynais astudio Cymdeithaseg ar y cyd a Chymraeg ar ôl y mwynhad a gefais wrth ei astudio fel pwnc Lefel A a'r ffaith ei fod hefyd yn bwnc hynod eang sy’n agor llawer o ddrysau.
Sut mae'n teimlo i fod graddio?
Mae’n deimlad chwerwfelys! Rwy’n hynod falch bod yr holl waith astudio wedi talu ar ei ganfed a chael dathlu gyda fy nheulu a’m ffrindiau ond eto mae’n drist meddwl bod fy amser ym Mhrifysgol Bangor yn dod i ben.
Pam Bangor?
’Roedd yr awyrgylch gartrefol a Chymreig a deimlais yn y Brifysgol yn ystod y diwrnod agored yn sicr yn ffactor a’m harweiniodd i ddod i Fangor. ’Roeddwn yn ymwybodol hefyd o’r bri cenedlaethol sy’n perthyn i Ysgol y Gymraeg a bod safon yr addysg yno yn rhagorol. Gwyddwn hefyd fy mod eisiau astudio’r Gymraeg ar lefel greadigol a phroffesiynol a gwelais bod yr ystod o fodiwlau y mae’r ysgol yn ei gynnig yn rhoi mwy na digon o gyfleoedd i mi allu gwneud hynny dan adain y goreuon! Penderfynais fy mod yn sicr eisiau astudio Cymdeithaseg ym Mangor hefyd ar ôl canfod ei bod yn bosib astudio’r pwnc yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Cefais fy atynnu yn arbennig hefyd gan y cyfleoedd i astudio modiwlau yn y maes Cynllunio Ieithyddol o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Gweithio wrth astudio:
’Roeddwn i’n gweithio un neu ddau ddiwrnod yr wythnos fel Gweinyddydd Achlysurol i gymdeithas dai Grŵp Cynefin tra’r oeddwn i’n astudio. Fel rhan o’r swydd honno cefais y cyfle i weithio o fewn y Tîm Gwasanaeth Cwsmer, Tîm Tai a’r Tîm Cynnal a Chadw. Rhoddodd y profiadau rheiny fewnwelediad a dealltwriaeth i mi o natur a strwythur cwmni o’r fath. Cynyddodd y profiad fy hyder hefyd a datblygais ystod o sgiliau gwerthfawr ar gyfer cychwyn fy ngyrfa.
Clybiau a Chymdeithasau:
Ffactor mawr arall am ddenodd i Fangor oedd y bwrlwm o gwmpas UMCB. Bu’m yn aelod o UMCB yn ystod fy nhair mlynedd ym Mangor ac ni fyddai fy amser yn y Brifysgol wedi bod gystal oni bai am y digwyddiadau cymdeithasol a drefnwyd gan y pwyllgor yn ogystal â’r Cymric. ‘Roeddwn hefyd yn aelod o Aelwyd JMJ a bu’r aelwyd yn bendant yn rhan ganolog o fy mywyd Prifysgol hefyd.
Uchafbwynt:
Mae’n anodd dewis un uchafbwynt! Mwynheais yr holl ddigwyddiadau rhyng-golegol a thripiau rygbi UMCB i Gaeredin a Dulyn yn ofnadwy. Profiad arbennig arall oedd bod yn rhan o Gôr Aelwyd JMJ pan enillom yr holl gystadlaethau corawl yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd eleni. ’Roedd cael gwybod fy mod yn un o bump sydd wedi ennill Gwobr Dr John Robert Jones a fy mod i ac Erin, un o fy ffrindiau gorau, wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Gwyn Thomas yn sicr yn uchafbwynt hefyd.
Y dyfodol:
Ar hyn o bryd rwy’n cymryd blwyddyn o seibiant o addysg er mwyn casglu profiadau gwaith a phenderfynu pa gwrs meistr yr hoffwn wneud cais am le arno yn 2020. Derbyniais gynnig am swydd chwe mis fel Swyddog Gweinyddol o fewn y Tîm Tai yn Grŵp Cynefin fis diwethaf. Rwy’n gobeithio cael gwneud ychydig o drafeilio hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019