Prosiect Penrhyn: Efrydiaeth PhD 3 blynedd ar hanes cymdeithasol a gwleidyddol gogledd orllewin Cymru, c.1860-1980.
Efrydiaeth PhD dair blynedd, wedi’i chyllido’n, fydd yn canolbwyntio ar effaith a dylanwad ystâd y Penrhyn ar hunaniaeth gymdeithasol a gwleidyddol gogledd orllewin Cymru yn ystod y cyfnod c.1860-1980.Yn dechrau ym yn dechrau ym hydref 2017 / Ionawr 2018.
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am efrydiaeth PhD tair blynedd fydd yn canolbwyntio ar effaith a dylanwad ystâd y Penrhyn ar hunaniaeth gymdeithasol a gwleidyddol gogledd orllewin Cymru yn ystod y cyfnod c.1860-1980. Noddir yr efrydiaeth unigryw hon gan Gwmni’r Brethynwyr ac mae'n cynnwys tâl cynnal gwerth tua £10,000 am dair blynedd, yn ogystal â chost y ffioedd dysgu a chyllid i fynd i gynhadledd ryngwladol.
Goruchwylir y project gan dîm academaidd arbenigol a rhyngddisgyblaethol dan arweiniad yr Athro Andrew Edwards (Deon Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac Athro Hanes Modern) ac mae'n cysylltu â rhannau annatod proffil treftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth. Mae'r project yn gyfle rhagorol i unigolyn graddedig llawn cymhelliant, talentog ac uchelgeisiol sydd am ddatblygu gyrfa yn y sector academaidd a/neu'r sector treftadaeth ddiwylliannol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16 Hydref, 2017.
I gael rhagor o wybodaeth gweler isod.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2017