REF 2014: Llwyddiant ar lefel uchel ac effaith ymchwil
Mae ymchwil gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor wedi cael sgôr uchel ar draws nifer o ddisgyblaethau a'i rhoi yn yr 20 uchaf yn y DU.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys ystod eang o feysydd, yn cynnwys iechyd, polisi cymdeithasol, ieithoedd modern a hanes. Ym mhob maes barnwyd bod 76% o'r cynnyrch gyda'r gorau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol; ym maes iechyd cododd hyn i'r ganran ryfeddol o 95% o'r cynnyrch.
Roedd Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol, yr Athro Jane Noyes, yn eithriadol falch o ganlyniadau REF 2014: "Mae ein hymchwil o safon gyda'r orau yn y byd ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r sgôr uchel a gafodd yr ymchwil ar draws sawl maes yn hynod galonogol ac mae'n adlewyrchu natur amlddisgyblaethol yr Ysgol. Mae myfyrwyr yn elwa ar yr ymchwil a wneir yn ein Hysgol, sy'n goleuo dysgu amlddisgyblaethol ar draws y Brifysgol. Rydym yn hynod falch hefyd o weld bod dylanwad ein hymchwil yn cael ei gydnabod mewn cyd-destun rhyngwladol."
Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014