Rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn i ganolbwyntio ar archifau ystadau
Mae'n bleser mawr gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru gyhoeddi galwad am bapurau ar gyfer rhifyn arbennig o Archives and Records, cyfnodolyn yr Archives and Records Association.
Mae cyfrol arbennig ar bwnc archifau ystadau'n cael ei olygu gan Dr. Shaun Evans, ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth, Sarah Higgins a Dr. Julie Mathias. Byddant yn gweithredu fel golygyddion gwadd i'r gyfrol hon.
Gwahoddir cyflwyniadau o bob rhan o'r sectorau archifau, academaidd a threftadaeth ddiwylliannol, yn cynnwys darnau wedi eu llunio ar y cyd yn adlewyrchu cydweithio ar draws y meysydd hyn.
Ewch i'r wefan hon i weld yr alwad lawn am bapurau.
Y dyddiad cau i ddatgan diddordeb yw 31 Rhagfyr 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2017