Rhoi tlodi o dan y chwyddwydr
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cyfuno trafodaethau a drama er mwyn rhoi sylw i dlodi mewn digwyddiad cyhoeddus ddydd Mercher 8 Tachwedd.
Bydd ‘Poverty: Local, National and International’ yn rhoi sylw i waith arloesol gan academyddion a myfyrwyr yn yr Ysgol, sydd yn dangos sut mae tlodi yn effeithio ar hunaniaeth pobol ac yn llywio eu bywydau. Mae’r digwyddiad yn rhan o wythnos o weithgareddau Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas sy’n digwydd ar draws Prydain dan nawdd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y Deyrnas Unedig.
Hefyd yn cymryd rhan bydd grŵp theatr, Empty Plate Productions, a berfformiodd yn ddiweddar o flaen Jeremy Corbyn ac aelodau seneddol eraill yn Nhŷ`r Cyffredin. Bydd y grŵp yn perfformio’u drama rymus, Food Bank As It Is, am yr ail dro y tu allan i Lundain.
Ysgrifennwyd Food Bank As It Is gan reolwr Banc Bwyd, Tara Osman, ac fe’i cynhyrchwyd a’i pherfformio gan grŵp o actorion amatur a ffrindiau. Maent wedi rhoi wyth perfformiad ar draws Llundain, ac un yn Oxfam House yn Rhydychen, a oedd yn rhan o Ddiwrnod Bwyd y Byd.
Esboniodd Tara yr hyn a’i symbylodd i ysgrifennu’r ddrama:
"Roeddwn yn dod yn gynyddol ymwybodol o’r nifer o bobol, a phlant di-ri, oedd yn mynd heb fwyd ac yn newynog gan nad yw’r sustem buddiannau lles yn addas i’w diben. Dydi’r ffaith fod yna blant neu oedolion bregus mewn tŷ yn gwneud dim gwahaniaeth. Rwyf wedi ysgrifennu’r ddrama gan fy mod yn credu bod yr hyn sy’n digwydd i’r bobol yma yn annerbyniol yn foesol ac angen ei herio nes iddo ddod i ben."
Disgrifiodd Patrick Butler o`r Guardian y ddrama fel "drama bynciol o bwys am dlodi, defnyddio banciau bwyd a’r hyn sy’n ei gynnal.”
Bydd y sgyrsiau yn y bore yn canolbwyntio ar faterion cyfoes fel tlodi byd eang, anghydraddoldeb, diffyg gweithio a defnyddio banciau bwyd.
Bydd Dr Hefin Gwilym, darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, yn edrych ar dlodi yng Nghymru a thlodi byd-eang. Bydd yn esbonio pam fod tlodi cymharol yng Nghymru mor anodd i`w drechu er ymgyrchoedd polisi i`w ddatrys. Bydd hefyd yn egluro pam fod honiad y Cenhedloedd Unedig fod tlodi byd-eang wedi lleihau yn cael ei herio, gyda rai ysgolheigion yn amcangyfrif bod 4 biliwn o boblogaeth y byd yn byw mewn tlodi.
Bydd David Beck, myfyriwr PhD Gwyddorau Cymdeithas, yn trafod ei waith ymchwil ar y cynnydd a welwyd mewn defnyddio banciau bwyd yng Nghymru.
Hefyd bydd Louise Prendergast, myfyriwr ôl-radd, yn rhannu ei gwaith ymchwil PhD a fu’n ymchwilio i safbwyntiau pobol ifanc tuag at waith a lles a’u profiadau yn y maes hwnnw. Mae ei chanfyddiadau yn pwysleisio’r heriau sy’n wynebu pobol ifanc ddi-waith wrth ymdrin â’r system budd-daliadau, costau ariannol, straen ac anniogelwch. Mae i’r rhain oblygiadau posib ar gyfer rhai fydd yn gwneud cais am Gredyd Cyffredinol (Universal Credit). Er enghraifft, dan Gredyd Cyffredinol, bydd rhaid i ymgeiswyr sydd yn ennill lleiafswm cyflog am lai na 35 awr yr wythnos ddangos tystiolaeth eu bod yn chwilio am ragor o oriau. Mae’r rheidrwydd i chwilio am waith wedi bod ynghlwm â budd-daliadau diweithdra, ond dan Gredyd Cyffredinol caiff ei ymestyn i rai sydd eisoes mewn gwaith. Rhoddir cosbau a dirwyon am beidio â chydymffurfio â’r gofynion.
Dywedodd Jackie Blackwell, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Ynys Môn:
“Mae tlodi yn byrhau bywydau pobol a’i wneud yn fwy creulon nag sydd raid iddo fod. Nid dewis ffordd o fyw yw tlodi, ac mae’n fwy na dim ond bod ar incwm isel a mynd heb bethau angenrheidiol. Mae’n ymwneud hefyd â chael eich amddifadu o rym, parch, iechyd da, addysg, tai, hunan-barch sylfaenol a’r gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.
Mae’n hanfodol bod ymchwil yn cael ei chynnal i bob agwedd ar dlodi, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond yn rhyngwladol, ac i’r Llywodraeth a phartneriaid allweddol weithio’n effeithiol i`w liniaru. Mae’r digwyddiad yma’n arbennig o berthnasol oherwydd effeithiau andwyol y Diwygio Lles ar rai teuluoedd yn y Deyrnas Unedig. Mae gen i ddiddordeb penodol mewn clywed sut y bydd y gwaith hwn, a noddir gan yr ESRC, yn effeithio ar fusnesau, y sector cyhoeddus a chymdeithas sifil ac yn cyfrannu at ba mor gystadleuol yw’r Deyrnas Unedig yn y byd, effeithiolrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus, ac ansawdd bywydau pobol.”
Gall pobol sydd eisio ymuno â`r digwyddiad undydd yn Neuadd John Phillips, Ffordd y Coleg, Bangor ar 8 Tachwedd gofrestru am docyn am ddim yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/esrc-festival-socsci-many-faces-of-poverty-local-national-international-tickets-38429355236
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017