Sefydliad Confucius yn ymuno â Choleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Yr haf hwn bydd sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dod yn rhan o Goleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes y brifysgol.
Mae Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor a sefydlwyd ym Medi 2012, yn sefydliad canolog amlddisgyblaethol a'i nod yw rhoi cyfle i bobl gogledd Cymru gael blas ar ddiwylliant ac iaith Tsieina a dysgu mwy amdanynt. Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn un o 500 sefydliad tebyg ledled y byd. Ar hyn o bryd mae 29 Sefydliad Confucius yn y DU. Mae sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn un o dri ym Mhrifysgolion Cymru (gyda'r ddau arall yng Nghaerdydd a Phrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant) gyda'r nod o ddod â Chymru a Tsieina yn nes at ei gilydd. Trwy'r sefydliad mae pobl, cymunedau, busnesau a sefydliadau yng ngogledd Cymru yn cael cyfle i ddod i ddeall Tsieina fodern a chlasurol.
Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn dwyn ynghyd ystod o ddisgyblaethau academaidd cysylltiedig mewn chwe Ysgol Academaidd i gyflwyno cyrsiau ac ymchwil o'r ansawdd uchaf ac mae hefyd yn gartref i'r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS), gan ddarparu cyrsiau iaith Saesneg a sgiliau astudio i fyfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor.
Mae dod â'r Coleg a Sefydliad Confucius ynghyd yn rhoi cyfle gwych i ddatblygu ac ehangu'r bywyd creadigol, deallusol a diwylliannol bywiog ym Mhrifysgol Bangor.
AYn ôl, Dr Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius, “Ers ei sefydlu mae Sefydliad Confucius wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â holl ysgolion y coleg ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gynyddu a dyfnhau’r cysylltiadau addysgol, cyfnewidiadau diwylliannol a chydweithredu mewn ymchwil.” Meddai, “Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o dîm academaidd mor egnïol ac ymroddedig a gobeithiwn y gallwn helpu i wneud y coleg yn fwy amlwg trwy ein rhwydwaith o ysgolion a cholegau sydd wedi sefydlu partneriaeth ledled gogledd Cymru. Rydym yn croesawu’n gynnes yr holl staff a myfyrwyr a hoffai ehangu eu gwybodaeth a’u profiad o iaith a diwylliant Tsieina ac sy’n dymuno dysgu mwy am ein gwersyll haf a rhaglenni ysgoloriaeth.”
"Rydym yn falch iawn bod Sefydliad Confucius yn ymuno â’r coleg,” meddai’r Athro Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. “Bydd yr uno hwn yn caniatáu inni weithio’n agos gyda’r Sefydliad yn y dyfodol wrth iddo barhau i hyrwyddo'n llwyddiannus diwylliant, iaith a threftadaeth gyfoethog Tsieina yn y rhanbarth hwn. Gyda datblygiad y radd Tsieinëeg newydd ac ychwanegu'r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor i'r coleg yn y blynyddoedd diwethaf, edrychwn ymlaen at weithio gyda Lina a'r tîm wrth i ni barhau i wella ein proffil rhyngwladol.”
I gael rhagor o newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau yn Sefydliad Confucius, ewch i'n gwefan: www.bangor.ac.uk/confucius-institute
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019