Sefydliad Tai Siartredig yn dilysu modiwl israddedig
Mae'r Sefydliad Tai Siartredig wedi dilysu modiwl trydedd flwyddyn Gwyddorau Cymdeithas SXP3210 Materion Tai. Daw hyn â manteision i fyfyrwyr sy'n meddwl am yrfa ym maes tai neu astudiaethau pellach yn y maes. Mae'r manteision yn cynnwys credyd rhannol tuag at aelodaeth siartredig y Sefydliad Tai Siartredig.
Dywedodd Shirley Morris, Cydlynydd Addysg y Sefydliad fod rhaglen yr Ysgol "yn fanwl iawn ac rydym yn cymeradwyo'r gwaith a aeth i ddatblygu'r modiwl tai a'r deunyddiau cyflwyno".
Y Sefydliad Tai Siartredig, a ffurfiwyd yn 1916, yw'r corff proffesiynol i weithwyr ym maes tai. Fe'i llywodraethir gan Siarter Brenhinol ac Is-ddeddfau, a ddyfarnwyd yn 1984, a'i nodau yw ‘[to] promote the science and art of housing, its standards and ideals, and the training and education of those engaged in the profession of housing practice’.
Ystyrir aelodaeth siartredig o'r Sefydliad yn gydnabyddiaeth bwysig o arbenigedd, ymroddiad a safonau moesegol ym maes tai. Bydd myfyrwyr ar y modiwl Materion Tai a ddilyswyd gan y Sefydliad Tai Siartredig yn derbyn aelodaeth am ddim o'r sefydliad dros flwyddyn academaidd 2016-17. Mae'r manteision yn cynnwys derbyn Inside Housing yn rhad ac am ddim, prif gylchgrawn gweithwyr proffesiynol ym maes tai'r DU a'r dewis cyntaf i unrhyw un sy'n edrych am waith ym maes tai.
Dywedodd Dr Hefin Gwilym, cynullydd modiwl SXP3210 Materion Tai: "Dilyswyd y modiwl hwn gan y Brifysgol yn 2015 ac mae'n adeiladu ar y modiwlau tai a ddatblygwyd gan Dr David Hirst, y cyn uwch ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol. Bydd dilysiad y Sefydliad Tai Siartredig yn dod â nifer o fuddion i fyfyrwyr yn cynnwys mynediad at adnoddau tai newydd. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'r Sefydliad."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2016