Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru - Cynhadledd
Ar 13 Tachwedd, 2014, gwahoddwyd cynrychiolwyr o wahanol sefydliadau a chylchoedd yng Nghymru a allai fod â diddordeb mewn ystadau, i gyfarfod ym Mangor. Bwriad y gynhadledd oedd cyflwyno ISWE a chynnal deialog er mwyn cael gwell adnabyddiaeth o wahanol anghenion ymchwil a chyfraniadau posibl.
Daeth nifer sylweddol ynghyd ac yr oedd y mynychwyr yn cynnwys perchenogion ystadau, ymchwilwyr, archifwyr, cynrychiolwyr o wahanol gymdeithasau hanes lleol a gweithwyr ym maes y cyfryngau.
Bu’n brynhawn hynod o werthfawr ar gyfer blaenoriaethu gweithgarwch yn y dyfodol, a chreu perthynas o’r newydd gydag asiantau y tu hwnt i furiau’r brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015