Seminar am ddim: Cydgynhyrchu a Gofal Cymdeithasol – Rhoi’r Agenda Les ar Waith
Digwyddiad seminar am ddim wedi’i drefnu gan Fenter Gydweithredol Academaidd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ASCC) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Dydd Mawrth 24 Mehefin 12.30pm – 4pm
Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu cynnydd digynsail mewn galw. Er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol hwn, a chynnal gwasanaethau gofal cymdeithasol teg a chynaliadwy ar yr un pryd, mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn datgan y dylai pawb “o’r Llywodraeth i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen fod yn barod i feddwl yn wahanol am sut y mae gwasanaethau’n cael eu comisiynu a’u darparu”. Mae cydgynhyrchu gofal cymdeithasol yn elfen allweddol o’r agenda Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles sy’n ceisio trawsnewid y modd y caiff darpariaeth gofal cymdeithasol ei datblygu a’i chyflwyno, â phwyslais ar roi’r grym i ddefnyddwyr gwasanaeth a gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr ddatblygu modelau gofal newydd.
Bydd y digwyddiad seminar am ddim hwn yn canolbwyntio ar:
- Sicrhau bod cydgynhyrchu yn digwydd yn ymarferol – arfau a thechnegau a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd
- Cydgynllunio, cyllidebu cyfranogol, contractio mewn cynghrair a gweithio ar y cyd
- Mesur canlyniadau cydgynhyrchu
Bydd cyfleoedd ichi rwydweithio ag eraill dros ginio, dysgu am enghreifftiau o fentrau cydgynhyrchu llwyddiannus gan siaradwyr gwadd o bob cwr o Gymru a gogledd-orllewin Lloegr a chymryd rhan mewn trafodaethau World Café.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, sydd am ddim, ac i archebu lle, cysylltwch â Sue Jones (ascc@bangor.ac.uk; ffôn 01248 388 728).
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2014