Spartacus @ 60: Cynhadledd Ar-lein
Spartacus @ 60: Cynhadledd Ar-lein
21 Rhagfyr 2020, 9 - 6.30pm
Dyma syniad Kirk Douglas a chreadigaeth Stanley Kubrick ac mae'n dal i gael ei ystyried yn un o'r enghreifftiau gorau o'r genre hon. I nodi trigain mlynedd ers rhyddhau Spartacus, bydd y gynhadledd rithiol hon yn ystyried cynhyrchiad y ffilm hollbwysig hon a'i heffaith. Mae Spartacus wedi gadael ei hôl ar ddiwylliant poblogaidd a chafodd ei dynwared a’i pharodïo’n helaeth. Ond mae ei hunion safle o fewn oeuvre Stanley Kubrick wedi cael ei gamddeall ac mae rhai beirniaid ac academyddion wedi ei heithrio o'i ganon. O ganlyniad i hynny, ni fu'n destun yr un dadansoddiad beirniadol gan amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a safbwyntiau methodolegol â'i ffilmiau eraill. Bwriad y gynhadledd hon, drigain mlynedd ar ôl rhyddhau Spartacus, yw dod ag ysgolheigion a lladmeryddion o amrywiol gefndiroedd disgyblaethol ledled y byd at ei gilydd i archwilio’r ffilm, trafod ei heffaith ac ystyried ei safle o fewn gwaith Kubrick yn gyffredinol, yn ogystal â'r diwylliant gweledol a chymdeithasol-wleidyddol ehangach.
Ymhlith y pynciau a fydd yn cael eu trafod mae gwreiddiau’r ffilm, yr hyn a ddylanwadodd arni, y cynhyrchu, ei hestheteg, ei themâu, yr hyn y mae’n yn ei gynrychioli, y cyhoeddusrwydd fu amdani, sut y cafodd ei derbyn, ei hetifeddiaeth, a pherthynas y ffilm â gweddill gwaith Kubrick a Douglas.
Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal gan Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrîn, Prifysgol Bangor. Gallwch fynychu yn rhad ac am ddim a gall cyfranogwyr GOFRESTRU YMA.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r trefnwyr.
Trefnwyd Spartacus @ 60 gan yr Athro Nathan Abrams, Athro mewn Ffilm, Prifysgol Bangor (n.abrams@bangor.ac.uk); Dr James Fenwick, Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau, Prifysgol Sheffield Hallam (j.fenwick@shu.ac.uk) a Dr Elisa Pezzotta, Ysgolhaig Annibynnol (elisa.pezzotta@virgilio.it).
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2020