Staff Gwyddorau Cymdeithas ar ymweliad cyfnewid gwybodaeth yn India
Yn gynharach eleni, aeth staff o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas â grŵp o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ymweliad cyfnewid gwybodaeth yn India.
Ymunodd Pennaeth yr Ysgol, sef yr Athro Catherine Robinson, a Rob Poole, Athro Seiciatreg Gymdeithasol, â’r Athro Peter Lepping, Dr Brian Tehan a Mr Simon Pyke ar gyfer y Symposiwm Indo-Ewropeaidd cyntaf ar Orfodaeth, a gynhaliwyd ym Mysore, lle rhoddodd pob aelod o garfan Gogledd Cymru gyflwyniad unigol i’r rhaglen wyddonol. Cafodd yr ymweliad gefnogaeth ariannol o gronfeydd elusennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor.
Yn ystod yr ymweliad, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd ymchwil rhwng carfan Gogledd Cymru – a’r cyfan yn aelodau o’r Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas - ac academyddion clinigol Mysore. Mae cydweithrediadau ymchwil wedi’u hen sefydlu rhwng Dr Raveesh B.N. (Athro Seiciatreg yng Ngholeg a Sefydliad Ymchwil Meddygol Mysore), Dr Murali Krishna (cyn-Seiciatrydd Ymgynghorol ym maes yr Henoed yn BIPBC, ac ar hyn o bryd yn Gymrawd Ymchwil yn Ysbyty Coffa Holdsworth, Mysore), a’r Athrawon Lepping, Poole a Robinson.
Ar ben hynny, cafodd Catherine Robinson a Rob Poole yr anrhydedd o gael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar ddulliau ymchwil i gyfarfod rhyngwladol caeëdig o’r Gymdeithas dros Effeithiau Genedigol ar Iechyd ymysg Oedolion, fel rhan o astudiaeth y Cyngor Ymchwil Meddygol ar garfannau genedigaeth ym Mysore.
O ganlyniad i’r cyfarfodydd ymchwil hyn, sefydlwyd tri chyswllt ymchwil o bwys rhwng Gogledd Cymru a Mysore ar hunan-niwed bwriadol, gorfodaeth a hawliau dynol o fewn ymarfer ym maes iechyd meddwl, a datblygu dulliau ymchwil newydd mewn meysydd yn India.
Trefnwyd y Gynhadledd ar Orfodaeth gan Peter Lepping a Dr Raveesh, a bu’n gydweithrediad rhwng Cymdeithas India dros Iechyd Meddwl Fforensig (IForMHA) a’r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd ar Drais mewn Seiciatreg (EViPRG). Yn gysylltiedig â Chymdeithas Seiciatrig India, IForMHA yw’r gymdeithas gyntaf o’i math yn Ne Asia. Ochr yn ochr â lansio IForMHA, lluniodd y prif gyfranwyr o India ac Ewrop ddatganiad ar leihau gorfodaeth mewn ymarfer iechyd meddwl, a adwaenir fel Datganiad Mysore, a’i lofnodi. Dyma’r datganiad craidd:
“Mae angen brys inni gydnabod a pharchu hawliau pobl â salwch meddwl, gan ddilyn egwyddorion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, sicrwydd, rhyddid, iechyd, cyfanrwydd ac urddas pawb, p’un a fyddont ag afiechyd meddwl neu beidio. Dylai’r holl bartïon sy’n gyfrifol am ofalu am bobl ag afiechyd meddwl a’u trin weithio tuag at ddileu pob ffurf ar wahaniaethu, gwaradwyddo, ynghyd â thriniaeth sy’n dreisgar, yn greulon, yn annynol neu’n ddiraddiol. Rydym yn cadarnhau bod trin pobl ag afiechyd meddwl trwy orfodaeth neu’n dreisgar yn groes i hawliau dynol a rhyddid sylfaenol, ac yn lleihau neu’n diddymu’r graddau y cânt fanteisio ar yr hawliau a’r rhyddid hynny. Byddwn yn ymdrechu i amddiffyn hawliau dynol pobl ag afiechyd meddwl. Byddwn yn gweithio i atal ymyrryd â’u hawliad, ac i’w hyrwyddo a’u gwarchod.”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2013