Tîm Bangor yn Ennill Grant Covid-19 Sylweddol
Tîm Bangor yn Ennill Grant Covid-19 Sylweddol
Mae tîm amlddisgyblaethol o Brifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiannus â’u cais i gynllun COVID-19 Ideas Address yr UKRI.
Bydd y gwaith yn edrych ar ddylanwad negeseuon y cyfryngau ar ddewisiadau pobl o ran gwisgo masgiau yn ystod y pandemig.
Teitl y project yw Between environmental concerns and compliance: How does media messaging affect motivation and choice between disposable versus reusable facemasks? ac mae'r grant gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn werth dros £400,000.
Fe'i dyfarnwyd i archwilio'r ffactorau cymhleth sy'n sail i ddewisiadau defnyddwyr wrth ddewis masg a ph’un ai i wisgo masg neu beidio, gan gynnwys gwaredu’r masgiau mewn modd cyfrifol.
Bydd y project yn parhau am ddeuddeg mis a’r nod cyffredinol yw ennyn gwell dealltwriaeth o ymddygiad cyfredol lle mae gwisgo masgiau wyneb yn y cwestiwn a dylanwad y cyfryngau ar hynny er mwyn cynyddu'r nifer sy'n eu gwisgo a gwella effeithiolrwydd ymgyrchoedd ar y cyfryngau at y dyfodol, gan ystyried materion amgylcheddol yn benodol.
Bydd yn defnyddio dulliau amlddisgyblaethol i werthuso negeseuon negyddol a chadarnhaol ynghylch gwisgo masgiau a chymhelliant, a dewisiadau cynaliadwy o ran gwisgo masg wyneb.
Mae'r tîm, dan arweiniad y Prif Ymchwilydd, yr Athro Nathan Abrams (Cyfryngau), yn cynnwys chwe academydd o'r brifysgol, gan gynnwys yr Athro Louise Hassan (Ysgol Busnes Bangor), Dr Tara Smith (Y Gyfraith), Dr Morwenna Spear (Biogyfansoddion), yr Athro Thora Tenbrink (Ieithyddiaeth) a'r Athro Simon Willcock (Gwyddorau Naturiol).
Dywedodd yr Athro Nathan Abrams, y Prif Ymchwilydd, “Mae hwn yn gyfle cyffrous ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at arwain y tîm.”
Ychwanegodd yr Athro Louise Hassan, “Mae'n wych cael bod yn rhan o'r project hwn a ddaeth i fod yn sgil cyfarfod rhwng ymchwilwyr â diddordeb mewn plastigion a gwastraff. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddeall ymddygiad defnyddwyr a gweithio gyda fy nghydweithwyr a dysgu oddi wrthynt.”
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021