Taith y Gymdeithas Gwyddorau Cymdeithas i Barcelona
Ysgrifenwyd gan Rebekah Bullen (myfyrwraig)
Ar 26 Mawrth 2018 fe wnaeth y gymdeithas gwyddorau cymdeithas hedfan i Farcelona heulog am drip pum diwrnod. Roedd y daith hon yn dilyn llwyddiant yr un i Berlin y llynedd ac roedd pawb yn teimlo'n gyffrous iawn, er gwaethaf gorfod cychwyn yn blygeiniol am faes awyr Manceinion!
Fe wnaethom aros yn yr Equity Point Centric Hostel, sydd yn ardal Eixample Barcelona. Roedd hwn yn lleoliad perffaith gyda dim ond deg munud o waith cerdded i La Rambla, y stryd dwristaidd enwog yn Barcelona gyda'i choed a phob math o siopau a bwytai. Roedd yr hostel yn agos hefyd at lawer o atyniadau i ymwelwyr y byddem yn ymweld â hwy ar y daith, a gerllaw roedd gorsaf fetro hwylus iawn i deithio i fannau ymhellach i ffwrdd.
Pan wnaethom gyrraedd Barcelona gyntaf ar ôl hediad cynnar am 6.00am, fe gawsom amser rhydd i grwydro'r ardal a chael rhywbeth i'w fwyta cyn y gweithgaredd gyda'r nos. Ein gweithgaredd cyntaf oedd taith i weld sefyllfa pobl ddigartref ar La Rambla a'r cyffiniau. Roedd hon yn daith ddiddorol iawn a chawsom weld beth yw sefyllfa digartrefedd yn Barcelona a manteisio ar brofiad uniongyrchol ein tywysydd a oedd ei hun wedi cael ei wneud yn ddigartref y 2012. Hwn hefyd oedd y profiad cyntaf o gerdded La Rambla i rai o'r grŵp.
Ar yr ail ddiwrnod fe wnaethom ymweld â'r Sagrada Familia ar daith hunan-dywys. Eglwys Babyddol anorffenedig yw'r Sagrada Familia, a gynlluniwyd gan y pensaer Catalanaidd, Antoni Gaudi. Ni chaiff yr eglwys ei chwblhau am tua 11 mlynedd eto; fodd bynnag, ni wnaeth hynny ein rhwystro rhag edmygu ei harddwch. Mae hanes a phensaernïaeth ryfeddol tu mewn a thu allan i'r eglwys hon. Y tu mewn i'r eglwys yn arbennig, mae'r haul yn creu lliwiau rhyfeddol pan mae'n disgleirio drwy'r gwydr lliw. Roedd gan y grŵp amser rhydd ar ôl ymweld â'r eglwys a phenderfynodd rhai myfyrwyr fentro ar fetro Barcelona i ymweld â'r Camp Nou sy'n gartref i dîm pêl-droed Barcelona.
Dechreuodd y trydydd diwrnod gyda thaith hunan-dywys arall, y tro hwn o amgylch Casa Mila. Mae hwn yn adeilad arall a gynlluniwyd gan Antoni Gaudi a drachefn mae pensaernïaeth ysblennydd y tu mewn a thu allan iddo. Roedd y daith yn dechrau ar deras y to lle gwelir pensaernïaeth ddiddorol a golygfeydd hardd dros ddinas Barcelona. Roedd y daith yn parhau wedyn y tu mewn lle cafwyd cyfle i weld sut y byddai un o'r fflatiau'n edrych pan gafodd yr adeilad ei godi, gan mai dyna oedd ei ddiben gwreiddiol. Yn wir, mae rhai pobl yn dal i fyw yn yr adeilad o hyd. Roedd gweddill y prynhawn yn rhydd i'r myfyrwyr fwynhau haul Barcelona a phenderfynodd rhai ohonynt fynd am dro i'r traeth!
Dechreuodd y pedwerydd diwrnod, a'r un llawn olaf, gyda thaith ar gar cebl Montjuic. Mae'r car cebl hwn yn mynd i gopa'r bryn lle saif castell Montjuic. Cafodd y grŵp gyfle i ymweld â'r castell a cheir golygfeydd gwych o Barcelona oddi yno. Roedd y prynhawn eto'n rhydd a chafodd rhai o'r grŵp gyfle i ymweld â Sŵ Barcelona. Daeth y grŵp at ei gilydd gyda'r nos i fwrw golwg yn ôl dros y daith ac i rannu straeon amdani. Meithrinwyd cyfeillgarwch clos yn ystod y daith ymysg y myfyrwyr. Cawsom gwmni un o'n darlithwyr, Hefin Gwilym, ar y daith ac fe ddywedodd ef mai uchafbwynt yr ymweliad iddo oedd y cyfeillgarwch a'r agosatrwydd a ddatblygodd o fewn y grŵp.
Y bore olaf cyn i ni gychwyn yn ôl i Brydain, fe wnaeth un o'n darlithwyr o Fangor (Marcel Stoetzler) drefnu i ni gael sgwrs gyda Matthias Vom Hau, Athro Cysylltiol yn yr Insituit Barcelona d’Estudis Internacionals (IBEI). Rhoddodd Matthias ddewis o ddwy neu dair o sgyrsiau i'r grŵp a fe benderfynwyd yr hoffem wrando arno'n siarad am yr argyfwng economaidd diweddar a sut roedd wedi effeithio ar Barcelona. Roedd hon yn sgwrs ddiddorol iawn ac yn ffordd wych i orffen 5 diwrnod llawn hwyl!
Drwodd a thro, roedd Barcelona'n ffordd wych o ymlacio ynghanol arholiadau ac aseiniadau. Rydym eisoes yn cynllunio ein taith nesaf!
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2018