WISERD yn cael ei nodi fel 'adnodd pwysig' yn Adolygiad Diamond
Cafodd yr Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, o dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond, ei gyhoeddi yr wythnos hon. Mae'r adolygiad, a gafodd ei gomisiynu yn 2014, yn canolbwyntio ar ehangu mynediad; cefnogi anghenion sgiliau Cymru; cryfhau darpariaeth ran-amser ac ôl-radd yng Nghymru; a chynaliadwyedd ariannol hirdymor.
Cafodd cyllid ymchwil sy'n ymwneud ag ansawdd a throsglwyddo gwybodaeth eu hasesu hefyd fel rhan o'r adolygiad. Mae'r adolygiad yn gwneud sylw am y cyfraniad mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn ei wneud yn y maes ac yn nodi:
'…mae'n amlwg bod WISERD wedi datblygu i fod yn adnodd pwysig ar gyfer darparu trosglwyddo gwybodaeth mewn ystod eang o'r gwyddorau cymdeithasol.'
Aiff yr adolygiad yn ei flaen i argymell: 'Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru i gael cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar bolisi cymdeithasol, bob pum mlynedd, gyda'r disgwyl y bydd mwyafrif ei gyllid yn dod o brosiectau.'
Sefydlwyd WISERD yn 2008 i gasglu ynghyd a datblygu'r arbenigedd sy'n bodoli eisoes mewn dulliau a methodolegau ymchwil meintiol ac ansoddol ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae WISERD yn gwneud gwaith ymchwil ac yn cynnal gweithgareddau meithrin gallu sy'n hwyluso datblygiad seilwaith ymchwil ar draws y gwyddorau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru a'r tu hwnt.
Meddai'r Athro Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD: 'Mae hyn yn gymeradwyaeth sylweddol gan Adolygiad Diamond, ac rydw i'n falch iawn bod WISERD wedi cael cydnabyddiaeth am ehangder, arbenigedd a pherthnasedd ei rhaglenni ymchwil.'
Mae'r Athro Syr Ian Diamond yn nodi yn yr adolygiad: 'Rydym yn falch o gynnig y pecyn hwn o argymhellion ar gyfer cyllido addysg uwch yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru. Mae'r pecyn yn cynnwys elfennau sy'n plethu i'w gilydd a dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd; mae angen ei weithredu i gyd felly. Mae'n seiliedig ar ein gwerthoedd craidd sef y gall yr addysg, yr ymchwil a'r cyfnewid gwybodaeth sy'n digwydd mewn addysg uwch weddnewid Cymru a darparu cyfleoedd di-ri i bawb sy'n gallu elwa ar hynny.'
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn llawn (ac i weld y dyfyniad llawn am yr argymhellion ar gyfer WISERD ar dudalen 61).
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016