Y Ddraig Amryliw: LHDTC+ a Chymru
Y Ddraig Amryliw – cynhadledd i bawb ar hanes llawnach bywyd Cymru
Ar ddechrau mis Pride (Chwefror 2022), cynhelir cynhadledd ryng-ddisgyblaethol arbennig ‘Y Ddraig Amryliw’ i drafod agweddau ar y gymuned LHDTC+ yn y Gymru gyfoes a’i chynrychiolaeth yn y diwylliant Cymreig.
Cynhelir cynhadledd ‘Y Ddraig Amryliw: Cymru ac LHDTC+’ ar 3 Chwefror 2022. Fe’i trefnir gan Brifysgol Bangor dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fe’i cynhelir ar-lein, ac mae’n agored i’r cyhoedd. Bydd yn cynnwys cyfraniadau gan ysgolheigion o wahanol feysydd ac yn dangos pa mor eang y mae trafod a chydnabod pobl LHDTC+ wedi bod ym mywyd Cymru, nid yn unig heddiw, ond mewn hanes hefyd.
“Mae’r syniad bod profiadau pobl LHDTC+ ynghudd yn hanes Cymru a’r Gymraeg yn un cyffredin, ond mae cynhadledd Y Ddraig Amryliw yn ceisio cywiro hynny. Heb leihau’r profiad o erledigaeth a ddioddefodd llawer, mae modd inni gydnabod a hyd yn oed ddathlu cyfraniad ac amrywiaeth eang pobl LHDTC+ i fywyd Cymru, ei llenyddiaeth, ei diwylliant, a’i hanes. A dyna ydi’r gobaith wrth gynnal cynhadledd o’r fath - cofio’r gorffennol, cydnabod y presennol, a dathlu’r dyfodol lliwgar y bydd Cymru’n rhan ohono,” meddai Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Crefydd a Hanes ym Mhrifysgol Bangor a threfnydd y digwyddiad.
Mae’r gynhadledd am ddim ac ar-lein rhwng 9.15am a 2.45pm ar ddydd Iau 3 Chwefror 2022.
Gweler y rhaglen yma
Mae’r digwyddiad yn un o’r amrywiaeth o gynadleddau a gweithdai a drefnir eleni dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – ymysg y digwyddiadau eraill mae Cynhadledd ar Farchnata yn y Gymraeg a gynhelir ar 23 Mehefin a Chynhadledd Wyddoniaeth yn yr haf.
Bydd Dr Rhian Hodges o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, yn traddodi sgwrs am 'Y Gymuned LHDTC+, Cymdeithaseg a'r Gymru Gyfoes', gyda’r bwriad o archwilio sut sefyllfa sydd gan y gymuned arbennig hon yn y Gymru sydd ohoni. Ystyrir amryw gwestiynau pwysig yn ymwneud a hawliau a chynrychiolaeth, a chynigir sylwadau treiddgar am y berthynas rhwng y gymuned LHDTC+ a Chymru 2022.
‘Bywydau Amryliw ein Llyfrau Plant' a fydd yn mynd a bryd Dr Siwan M. Rosser, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. A hithau’n awdurdod nodedig yn y maes, bydd Dr Rosser yn cynnig mewnwelediad gofalus o lenyddiaeth Gymraeg ac yn ystyried yr agweddau LHDTC+ sydd yn bod, neu’n wir, sydd yn brin yn y llyfrau hynny sy’n rhan o wead llenyddol Cymru. Cynigir sylwadau diddorol iawn am hanes llenyddiaeth plant Cymru a’r heriau, y cyfleoedd ac, o bosibl, y dyletswyddau sy’n wynebu llenorion y Gymru gyfoes i fod yn fwy cynrychioladol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2022