Y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas yn ennill grant y Cyngor Prydeinig
Mae'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn datblygu perthynas bwysig gydag ymchwilwyr yn yr India.
Llwyddodd yr Athro Rob Poole a'r Athro Catherine Robinson o'r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas i ennill grant Partneriaeth Economi Gwybodaeth gan raglen fframwaith Rhyngwladoli Addysg Uwch y Cyngor Prydeinig. Yr Athro Raveesh BN o Goleg Meddygol Mysore, Karnataka sy'n arwain y tîm o'r India.
Mae'r project wedi deillio o Ddatganiad Mysore, a ddaeth ag uwch aelodau Cymdeithas India dros Iechyd Meddwl Fforensig (IForMHA), y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd ar Drais mewn Seiciatreg (EViPRG), a Phrifysgol Bangor at ei gilydd.
Bydd grant y Cyngor Prydeinig yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth a sgiliau i ddatblygu ymchwil o bwysigrwydd rhyngwladol ym maes gorfodaeth a hawliau dynol. Bydd canlyniadau'r ymchwil yn sail wybodaeth i ddatblygu polisïau yn yr India, y DU ac mewn mannau eraill. Bydd y rhaglen yn cynnwys lledaenu sgiliau a gwybodaeth sy'n cael effaith uniongyrchol ar addysg a hyfforddiant yn y ddau sefydliad partner. Bydd yr Athro Raveesh BN yn ymweld â Phrifysgol Bangor ym mis Medi 2014 i weithio gyda'r tîm yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014