Y ganolfan ymchwil cymdeithas sifil flaenllaw yn mwynhau agoriad swyddogol
Sefydliad ymchwil sy’n seiliedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn derbyn £10 miliwn ar gyfer ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol.
Bydd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn dathlu lansiad ei Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD flaenllaw ar ddydd Iau 5ed Chwefror, 2015. Mae WISERD wedi derbyn dros £10 miliwn mewn cyllid i sefydlu canolfan ymchwil genedlaethol a fydd yn ymgymryd â rhaglen bum mlynedd sy’n arloesol ac yn bellgyrhaeddol o ymchwil sy’n berthnasol i bolisïau yn cyfeirio at y Gymdeithas Sifil yng Nghymru, y DU ac yn Rhyngwladol. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £7 miliwn o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ynghyd â £3m arall gan Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae Cymdeithas Sifil WISERD yn fenter gydweithredol, sy’n ymwneud ag ymchwilwyr o ar draws deuddeg o Brifysgolion y DU ynghyd ag ystod o bartneriaid rhyngwladol.
Bydd rhaglen y Ganolfan yn archwilio cyfres o themâu perthnasol i bolisi ac ymarfer sy’n effeithio ar gymdeithas sifil ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd y rhain yn cynnwys: addysg, gwirfoddoli, lles, heneiddio, llywodraethu ac amrywiaeth.
Cynhelir y digwyddiad lansio yng Nghanolfan Gelfyddydau The Gate yn y Rhath, Caerdydd ac fe’i mynychir gan rai o academyddion mwyaf blaenllaw'r byd, ynghyd â rhanddeiliaid cyhoeddus a pholisi, a sefydliadau cymdeithas sifil. Mae’r siaradwyr yn cynnwys: Ruth Marks (MBE), Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA); Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru; a Saskia Sassen, Athro Cymdeithaseg Robert S. Lynd ym Mhrifysgol Columbia a Chyd-Gadeirydd y Pwyllgor ar Feddwl Byd-eang.
Mae’r Ganolfan yn ymrwymedig i ymgymryd ag ymchwil ar gymdeithas sifil er mwyn bod o fudd i gymdeithas sifil a bydd yn gweithio’n agos ag ystod o sefydliadau gan gynnwys: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Age Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.
Dywedodd Dr Rosie Plummer, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: “Mae’r ganolfan hon yn ddatblygiad aruthrol ac rydym yn frwd dros gefnogi ei hymchwil gwerthfawr a chydweithredu â hi. Bydd deall posibiliadau a chymhelliant gwirfoddolwyr hŷn, a goresgyn unrhyw bethau sy’n eu rhwystro rhag ymwneud â ni, yn fanteisiol dros ben. Ar adeg pan fo’r boblogaeth yn heneiddio, mae teuluoedd yn atomeiddio, ac mae’n peri gofid nad yw cyfran mor uchel o bobl ifanc (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig) mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, mae gan brosiectau o’r math hwn bosibiliadau manteisiol sylweddol a thra phwysig.”
Gan ategu cefnogaeth Dr Plummer, dywedodd Bryan Collis, Uwch Swyddog Ymchwil yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA): “Mae’r Ganolfan Cymdeithas Sifil yn cynrychioli’r buddsoddiad mwyaf mewn ymchwil ym maes gwirfoddoli, cymunedau a gweithgaredd gwirfoddol yng Nghymru y gallaf ei gofio. Rwy’n gobeithio y bydd yn arwain i well dealltwriaeth o’r modd y mae cymunedau yng Nghymru’n gweithio ac yn newid, fel y gallwn ni, pobl Cymru, feithrin cymunedau cryfach, mwy gwydn. Bydd hynny’n hanfodol fel yr ydym yn wynebu heriau’r dyfodol. Bydd y profiad yng Nghymru weithiau’n cael ei golli mewn ymchwil sy’n seiliedig ar y DU, felly rwy’n edrych ymlaen at weld gwaith sy’n cymharu ein profiad a’n sefyllfa ag ardaloedd eraill o’r DU a thu hwnt.”
Roedd cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Ian Rees Jones, yn croesawu’r fenter, gan nodi: “Mae Cymdeithas Sifil WISERD wedi’i hadeiladu o gwmpas partneriaethau hirsefydlog rhwng academyddion, gwneuthurwyr polisi a sefydliadau cymdeithas sifil dros y saith mlynedd diwethaf. Nod y Ganolfan fydd llywio ein dealltwriaeth o natur gyfnewidiol cymdeithas sifil yng nghyd-destun llywodraeth ddatganoledig a phrosesau newid cymdeithasol ac economaidd dwys. At hyn, oherwydd ei maint a’i llywodraeth ddatganoledig, mae Cymru’n cynnig cyd-destun unigryw ar gyfer astudio’r materion hyn. Bydd y ganolfan yn adeiladu ar rwydweithiau presennol o ymchwilwyr sydd ag ystod eang o arbenigedd a sgiliau, i ymgymryd ag ymchwil ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Dyma gyfle gwirioneddol unigryw a chyffrous i ymgymryd ag ymchwil gydweithredol ac amlddisgyblaeth sy’n canolbwyntio ar nodweddion cyfoes cymdeithas sifil.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2015