Y Gwir Anrh. Jack Straw i draddodi Darlith Goffa'r Athro Duncan Tanner
Bydd Y Gwir Anrh. Jack Straw ym Mhrifysgol Bangor Ddydd Mawrth 18 Chwefror i draddodi Darlith Gyhoeddus.
Teitl darlith Y Gwir Anrh Jack Straw yw: Defeat from the Jaws of Victory: Labour’s Fatal Attraction. Mae’r ddarlith ar agor i’r cyhoedd ac yn rhad ac am ddim. Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael drwy wefan neu Swyddfa Docynnau Pontio (01248) 382828.
Mae'n bleser gan Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, sydd yn noddi ac yn trefnu’r digwyddiad, gael croesawu’r Gwir Anrhydeddus Jack Straw i Pontio i draddodi Darlith Goffa'r Athro Duncan Tanner eleni.
Gwasanaethodd Jack Straw fel Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig (2001-2006), Ysgrifennydd Cartref (1997-2001), ac Arweinydd Tŷ'r Cyffredin (2006-2007) o dan y Prif Weinidog Tony Blair. Bu'n Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Cyfiawnder (2007-2010) o dan Gordon Brown a gwasanaethodd rhwng 1979 a 2015 fel Aelod Seneddol Blackburn.
Fel Ysgrifennydd Cartref, ef oruchwyliodd y gwaith o gyflwyno'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac ymgorffori'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhan o gyfraith Prydain. Fel Ysgrifennydd Tramor chwaraeodd ran flaenllaw wrth ymdrin â'r problemau polisi tramor a gafwyd yn sgil ymosodiadau terfysgol 9/11 yn Efrog Newydd a'r ymgyrchu milwrol a ddaeth yn sgil hynny yn Afghanistan ac Irac.
Ym mis Gorffennaf 2015, fe’i penodwyd yn Aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ryddid Gwybodaeth.
Athro Hanes ym Mhrifysgol Bangor oedd yr Athro Duncan Tanner (1958-2010) a Chyfarwyddwr y Sefydliad Cymreig dros Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol yn y Brifysgol. Roedd hefyd yn arwain project mawr a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar hanes datganoli yng Nghymru.
Meddai’r Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas:
“Mae cael rhywun o statws y Gwir Anrh. Jack straw yn traddodi’r degfed Ddarlith Goffa yn deyrnged briodol i’r Athro Duncan Tanner.
“Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad balch o addysg ac ymchwil mewn amrywiol agweddau ar wleidyddiaeth. Bellach, diolch yn rhannol i greu'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol newydd, rydym yn medru cynnig Gradd newydd mewn Gwleidyddiaeth. Rydym yn darparu ystod o bynciau ar wleidyddiaeth Cymru, Prydain, Ewrop, Gogledd America a byd-eang. Yn ddiweddarach eleni byddwn yn buddsoddi mewn apwyntiad newydd i gryfhau ymhellach yr hyn sydd eisoes yn rhaglen gyffrous.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2020