Y myfyrwyr MSocSci cyntaf yn graddio o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Ymysg y 3,062 o fyfyrwyr oedd yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf oedd y garfan gyntaf i raddio mewn cymhwyster cwbl unigryw mewn gwyddorau cymdeithas.
Wedi ei lansio yn 2015, mae'r MSocSci yn radd israddedig estynedig dros bedair blynedd ac y mae'r myfyrwyr ar y diwedd yn ennill cymhwyster gradd Meistr. Dyma'r gyntaf o'i math yng Nghymru ac yn wir yn y DU ym maes gwyddorau cymdeithas.
Golyga hynny mai Rachael Armstrong, Peter Lindop, Zoe Marsh-Hughes, Ian Nelson a Sian Roberts yw'r unig bump o bobl yn y DU sydd â'r cymhwyster hwn.
"Mae ein graddau MSocSci yn caniatáu i fyfyrwyr ennill cymhwyster lefel Meistr ac i astudio eu dewis bwnc mewn mwy o ddyfnder", eglurodd Martina Feilzer, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. "Mae'r rhaglenni yn cyfuno astudio traddodiadol gyda gweithio mewn tîm ac ymchwil gymdeithasol gymwysedig i gynorthwyo myfyrwyr i feithrin y sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn galw amdanynt.
"Drwy symud o'u gradd BA wreiddiol at wneud MSocSci, mae'r pump o raddedigion yma wedi dewis dilyn cyfle unigryw sydd wedi eu rhoi mewn sefyllfa gryfach ar gyfer cyfleoedd cyflogi, ac rydym yn eu canmol am ymrwymo i wella eu rhagolygon gyrfa".
Un fantais sydd gan y llwybr MSocSci yw bod myfyrwyr yn gymwys i ymestyn eu cyllid myfyrwyr i'w pedwaredd flwyddyn o astudio, gan wneud cymhwyster Meistr yn fwy hygyrch i lawer o fyfyrwyr - gan gynnwys Sian Elen Roberts o Borthaethwy.
"Roeddwn wedi bwriadu gwneud gradd Meistr drwy'r amser, ond yn y dechrau wedi meddwl cymryd blwyddyn i ffwrdd i weithio cyn gwneud hynny", meddai Sian sy'n 22 oed. "Roedd gwybod y byddwn yn cael yr un ansawdd addysgu â myfyrwyr ôl-radd, ond hefyd yn cael benthyciad myfyriwr am flwyddyn arall, yn gwneud y penderfyniad yn un haws i'w wneud, ond roedd y flwyddyn ychwanegol o gyllid hefyd yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar fy astudiaethau heb orfod poeni am arian.
"Mae astudio ar gyfer yr MSocSci wedi helpu i wella fy sgiliau cyflwyno ac wedi rhoi mwy o hyder imi siarad mewn amgylchedd proffesiynol. Roedd y dosbarthiadau bychan yn y bedwaredd flwyddyn yn galluogi imi siarad â phobl na fyddwn wedi siarad â nhw fel arall, a hynny yn ei dro wedi fy nghynorthwyo i weld materion o bersbectif gwahanol a gallu deall cymdeithas a throseddolrwydd yn well."
Gobaith Sian, sydd ar brofiad gwaith ar hyn o bryd gyda chwmni o gyfreithwyr rhyngwladol, yw gweithio mewn profiannaeth neu gyda throseddwyr ifanc, ac fe ychwanegodd: "Ni fu neb o'm rhieni nac unrhyw daid na nain yn y brifysgol. Rydw i'n teimlo'n falch dros ben nid yn unig am mai fi yw'r gyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol, ond fy mod hefyd yn gadael â gradd Meistr!"
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2016