Ymchwil ar ddefnydd y Gymraeg yn cael ei gyflwyno yng Nghynhadledd Ryngwladol ar Ddwyieithrwydd yn Addysg
Yr wythnos diwethaf, bu Dr Rhian Siân Hodges a Sioned Wyn Williams, myfyriwr PhD, yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil diweddar ar ddefnydd y Gymraeg yn y gymuned yng Nghynhadledd Ryngwladol gyntaf Prifysgol Bangor ar Ddwyieithrwydd yn Addysg.
Bu’r ddwy – sy’n cael eu cynorthwyo gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn cyflawni’r prosiect ymchwil (‘Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned’) ar ran Llywodraeth Cymru.
Bwriad yr ymchwil oedd gwerthuso Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru, ‘Iaith fyw: iaith byw (2012-2017)’ gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.
Thema’r gynhadledd hon oedd ‘Dwyieithrwydd mewn Addysg’, a thrafodwyd sawl agwedd o ymddygiad ieithyddol yn gysylltiedig ag addysg yn benodol o fewn cymunedau’r astudiaeth, sef Aberystwyth, Aberteifi, Bangor, Llanrwst, Porthmadog a Rhydaman.
Gwelwyd bod patrymau iaith a ddatblygwyd o fewn y sector addysg yn dylanwadu ar ddefnydd iaith gymdeithasol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Nodwyd bod y tuedd i ddefnyddio’r Saesneg gan rai pobl ifanc o fewn ysgol yn effeithio hyder a rhuglder i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn cyd-destunau cymdeithasol. Er hynny, nodwyd bod nifer o bobl ifanc yn chwilio am ragor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y system addysg ac yn gymdeithasol, ond bod yna gyfleoedd prin i wireddu hynny mewn sawl cymuned.
Un argymhelliad o’r astudiaeth ymchwil oedd bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau fod camau pendant mewn lle i gryfhau’r pontio rhwng y byd addysg a’r gymuned ehangach drwy amrediad o weithgareddau hamdden atyniadol i bobl ifanc hŷn.
Cyd-weithiodd Dr Cynog Prys ar y prosiect ymchwil hwn yn ogystal.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2016