Ymchwil archeolegol Bangor ar y cyfnod cynnar yng Ngwlad yr Iâ yn denu sylw rhyngwladol
Mae darganfyddiadau archaeolegol a phalaeoecolegol yn dangos bod pobl wedi bod yn byw yng Ngwlad yr Iâ er y flwyddyn O.C. 800 - mae hynny 70 mlynedd yn gynharach na’r dyddiad traddodiadol ar gyfer nodi dyfodiad y Llychlynwyr i’r wlad. Mae’n ymddangos bod cysylltiad rhwng y bobl
gynnar hyn yng Ngwlad yr Iâ a chymunedau mynachaidd o’r traddodiad Gwyddelig oedd wedi’u lleoli yng ngorllewin yr Alban.
Dr Kristján Ahronson o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor wnaeth y darganfyddiadau hyn a chafodd ei waith ei drafod ar y rhaglen materion cyfoes fwyaf blaenllaw ar y radio fin nos yng Nghanada, "As it Happens". Darlledwyd y cyfweliad ar draws Canada ar Radio CBC ac yn yr Unol Daleithiau ar ei gwasanaeth Radio Cenedlaethol Cyhoeddus. Gwnaed y darganfyddiadau hyn yng Ngwlad yr Iâ drwy i dîm Dr Ahronson ddefnyddio techneg o’r enw tephrochronology sydd yn defnyddio’r lludw (neu’r tephra) sy’n disgyn o losgfynydd wrth iddo ffrwydro. Mae tephrochronolgy wedi galluogi’r tîm i ddyddio’r safle archaeolegol ac i edrych ar y cofnod sydd yn y tephra o ryngweithio rhwng dyn a’i amgylchedd ac o newid hinsawdd yn y cyfnod cynnar yng Ngwlad yr Iâ.
GWRANDEWCH AR Y CYFWELIAD AR CBC:
Gwrandewch ar y cyfweliad ar lein drwy fynd i www.cbc.ca/aih . Ewch
i’r rhaglen a ddarlledwyd ddydd Mawrth, 11 Ionawr a chliciwch ar y
ddolen i Rhan 3. Mae cyfweliad Dr Ahronson yn dechrau ar 18.54.
DOLEN YN SYTH I BENNOD 11 IONAWR:
http://www.cbc.ca/asithappens/episode/2011/01/11/tuesday-january-11-2011/
DARLLENWCH YMHELLACH:
http://www.medievalists.net/2010/12/23/did-the-scots-visit-iceland-new-research-reveals-island-inhabited-70-years-before-vikings-thought-to-have-arrived/
http://www.unreportedheritagenews.com/2010/12/did-scots-visit-iceland-new-research.html
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2011