YMCHWILYDD DOETHUROL ISWE YN CAEL INTERNIAETH YN SAVE BRITAIN’S HERITAGE
Yn yr erthygl hon, rydym yn clywed gan Bethan Scorey am ei phrofiad yn gweithio fel intern gydag un o brif gyrff cadwraeth bensaernïol Prydain.
Yn ystod yr haf, rydw i wedi bod yn gweithio fel intern i SAVE Britain’s Heritage, sefydliad sy'n ymgyrchu ac yn ymyrryd i achub adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl o gael eu dymchwel a mynd yn adfail. Yr hyn sy'n gwneud SAVE yn wahanol i sefydliadau treftadaeth eraill yw eu pwyslais ar ddod o hyd i ddefnydd newydd cynaliadwy i adeiladau sydd mewn perygl, trwy ddod â phenseiri, peirianwyr, cynllunwyr a buddsoddwyr ynghyd i gynnig cynigion amgen hyfyw. Mae gweithredu, ac mewn rhai achosion cymryd camau cyfreithiol, i atal colli treftadaeth yn ganolog i'w gwaith. Mae eu llwyddiannau mawr yn ddiweddar yn cynnwys Smithfield Market yn Llundain, sydd ar hyn o bryd yn cael ei drawsnewid yn gartref newydd i Amgueddfa Llundain, a Richmond House.
Mae gwaith SAVE yn cynnwys adeiladau a safleoedd o bob math, ac roedd plastai wrth wraidd ei sefydlu pan gafodd ei greu ym 1975 mewn ymateb i'r arddangosfa Destruction of the Country House a gynhaliwyd yn y Victoria & Albert Museum ym 1974. Tynnodd yr arddangosfa sylw at ehangder y golled, gydag arddangosiad yn llawn o ddelweddau o'r mil o blastai a ddymchwelwyd ym Mhrydain ers 1875. Un o guraduron yr arddangosfa, Marcus Binney, yw llywydd gweithredol SAVE.
Mae fy mhroject ymchwil yn ISWE yn ymwneud â hanes pensaernïol a thirwedd Castell Sain Ffagan, plasty Elisabethaidd ar gyrion Caerdydd, sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Hanes Cenedlaethol Sain Ffagan. Fel aelod o staff yr amgueddfa, bûm yn ddigon ffodus i dreulio llawer o amser yn yr adeilad ac ar y tir o’i amgylch, yn enwedig yn ystod y pandemig pan gaewyd yr amgueddfa. Castell Sain Ffagan ei hun yw fy mhrif ffynhonnell, ac rwy'n ymwybodol iawn o ba mor ffodus ydw i fod yr adeilad nid yn unig wedi goroesi ond ei fod mewn cyflwr da ac yn hygyrch. Dyma un o'r rhesymau pam rydw i’n credu cymaint ym mhwysigrwydd y gwaith y mae SAVE yn ei wneud.
Mae yna debygrwydd mawr rhwng gwaith ac amcanion SAVE ac ISWE, ac rydw i’n gobeithio y bydd yr interniaeth hon yn gyfle i feithrin perthynas rhwng y ddau sefydliad. Mae ISWE yn cydnabod bod gan bobl Cymru ddiddordeb mawr mewn deall hanes y lleoedd a'r cymunedau maent yn byw ynddynt ac mae’r sefydliad yn cyfrannu at ddehongli a chyfathrebu hanes Cymru i’r cyhoedd. Mae SAVE yn dathlu treftadaeth adeiledig Cymru trwy eu digwyddiadau a'u cyhoeddiadau, er enghraifft eu rhith-sgwrs ddiweddar 'The Lost World of the Welsh Chapel' a ddenodd cynulleidfa o bob rhan o Brydain. Wrth gwrs, un o themâu trawsbynciol allweddol ymchwil ISWE yw plastai Cymru, eu gorffennol, eu presennol a'u dyfodol. Yma, mae gwaith SAVE yn hollbwysig oherwydd heb eu hymgyrchoedd, mae’n bosib na fyddai llawer o blastai Cymru wedi goroesi i'r presennol.
Yn ddiweddar, maent wedi helpu i sicrhau dyfodol i rai o'r plastai amlycaf yng Nghymru: ym mis Mawrth bu iddynt alw yn gyhoeddus ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gyhoeddi rhybudd atgyweirio brys ar gyfer Neuadd Kinmel ger Abergele, ‘Versailles Cymru', sydd mewn cyflwr ofnadwy, ond mae bellach wedi ei werthu i brynwr lleol. Mae SAVE hefyd wedi bod yn rhan o gefnogi ymdrechion i ddod o hyd i ateb ar gyfer Castell Ruperra yng Nghaerffili ers nifer o flynyddoedd, ac yn 2018 bu iddynt dalu am waith atgyweirio brys i rwystro rhan o’r adeilad rhag dymchwel. Ar hyn o bryd, mae 143 o adeiladau yng Nghymru ar gofrestr SAVE o adeiladau sydd mewn perygl, sy'n tynnu sylw at adeiladau sy'n wag ar hyn o bryd gyda dyfodol ansicr. Mae rhai o’r plastai y maent yn eu monitro ar hyn o bryd yn cynnwys Castell Gwrych, sy’n ymddangos fel petai ganddo ddyfodol addawol, Neuadd Blaenblodau, Neuadd Calcott, Gelli Aur, Hafodunos, Hendrefoilan, Castell Pencoed, Piercefield, a Phlas Gwynfryn; ond mae yna hefyd lawer o gapeli, bythynnod, neuaddau tref, ac adeiladau diwydiannol.
Gwnes gais am yr interniaeth oherwydd fy mod yn teimlo nad oeddwn yn gallu gwneud dim i rwystro adeiladau rhag cael eu dymchwel neu fynd yn adfail, er gwaethaf fy niddordeb mawr mewn adeiladau hanesyddol ac astudio cwrs Hanes Adeiladu. Fel un o drigolion Caerdydd, lle bu sawl ymgyrch i achub tirnodau lleol rhag datblygiadau modern, roeddwn yn teimlo hyn hyd yn oed yn fwy. Mae'r interniaeth hyd yma wedi bod yn amhrisiadwy, gan fy mod wedi dysgu pa gamau y gellir eu cymryd mewn ymateb i fygythiadau o ddymchwel a dadfeilio, yn cynnwys ysgrifennu llythyrau gwrthwynebiad a rhestru ceisiadau. Mae gweld eich ymdrechion yn dwyn ffrwyth a gwybod eich bod wedi cynorthwyo i sicrhau dyfodol i adeilad yn deimlad gwych, a dim ond ychydig wythnosau yn ôl roedd cais rhestru a gyflwynais ar gyfer yr Engine House Manceinion yn llwyddiannus, a’i rwystro rhag cael ei ddymchwel. Mae gwaith arall wedi cynnwys ymchwil i'r farchnad ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, diweddaru'r gofrestr o adeiladau mewn perygl, a pharatoi gwybodaeth am adeiladau sydd wedi cael eu dwyn i sylw SAVE. Un enghraifft yw Zeals House ger Mere yn Wiltshire, plasty Gradd I sydd wedi ei esgeuluso gan ei berchennog ers 2010.
Rydw i mor ddiolchgar i SAVE am roi'r cyfle hwn i mi. O weithio fel intern yn SAVE ochr yn ochr â fy astudiaethau doethurol, rydw i wir yn teimlo fy mod wedi ymgolli yng ngorffennol, presennol a dyfodol adeiladau hanesyddol Cymru a Phrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2021