Ymweliad gan fyfyrwyr MA â Gwlad y Basg i weld cynllunio ieithyddol ar waith
Mae myfyrwyr ar gwrs gradd unigryw’r MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol wedi cael golwg unigryw ar bwnc eu hastudiaethau yn sgil taith addysgol i Wlad y Basg yng Ngogledd Sbaen.
Ar y cyd â Dr Rhian Hodges, bu’r myfyrwyr ar ymweliad â nifer o sefydliadau allweddol sy’n gweithio i hyrwyddo a meithrin iaith y Basg. Amcan y daith oedd cyflwyno myfyrwyr i sefydliadau sy’n ymgyrchu dros hawliau ieithyddol siaradwyr iaith y Basg, a chymharu a gwrthgyferbynnu hyn â sefydliadau ac ymgyrchoedd cyffelyb yng Nghymru.
Gydag ymweliadau â sefydliadau addysgol, swyddfa papur newydd a mudiad hawliau ieithyddol, rhoddodd y daith 3-diwrnod gipolwg ar sawl agwedd ar gynllunio a pholisi ieithyddol. Gan gychwyn yn Orio, un o gadarnleoedd iaith y Basg, bu’r grŵp ar ymweliad ag ‘Ikastola’ – ysgol gyfrwng-Basgeg lle dysgir y Saesneg a’r Sbaeneg i ddisgyblion ochr yn ochr ag iaith y Basg. Yma, bu’r myfyrwyr yn dystion i wersi Basgeg a Saesneg, gan gyfrannu at drafodaethau yn y dosbarth. Yn Donostia, bu ymweliad â Kontseilua (y mudiad dros hawliau iaith y Basg) yn gyfle i ddysgu am strategaethau cynllunio iaith ac am y modd y sicrheir hawliau ieithyddol siaradwyr iaith y Basg. Ym Mhrifysgol Gwlad y Basg, hefyd yn Donostia, cafwyd cyfle i fod yn bresennol mewn darlith MA mewn Amlieithedd, a thra oeddent ar ymweliad ag Andoain, aeth y grŵp i swyddfeydd Berria, sef yr unig bapur newydd mewn bodolaeth yn iaith y Basg.
Meddai Bet Huws, myfyrwraig ar y cwrs sydd hefyd yn gweithio fel Brocer Iaith: “Da o beth weithiau yw gadael ein ynys ddaearyddol a seicolegol, o ran meddylfryd lleiafrifol, a sylweddoli ein bod, mewn gwirionedd, yn y mwyafrif. Dyma a ddaeth i'r amlwg wrth ymweld â Gwlad y Basg fel rhan o gwrs MA Cynllunio Ieithyddol a gynhelir ym Mangor."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2012