Ymweliad yr Athro Vera Trappmann â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar Gyfnewid Dysgu Erasmus
Bydd yr Athro Vera Trappmann o Brifysgol Otto-von-Guericke, Magdeburg, yr Almaen, yn ymweld â’r Ysgol ar Gyfnewid Dysgu Erasmus yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Mawrth. Mae hi’n Athro Cymdeithaseg a Chymdeithasau Ewropeaidd, ac mae ei hymchwil gymharol yn ymwneud â chydberthnasoedd llafur, lles a chyfrifoldeb corfforaethol yng Ngorllewin, Canolbarth a Dwyrain Ewrop.
Mae ei llyfrau diweddar yn cynnwys Business Leaders and New Varieties of Capitalism in Post-Communist Europe (Routledge, 2013) a Das Erbe des Beitritts. Europäisierung in Mittel- und Osteuropa (Nomos, 2006).
Bydd yr Athro Trapmann yn cyflwyno seminar am 12.00pm ddydd Gwener 22 Mawrth, yn Ystafell 1.12 Hen Goleg. ‘Fallen Heroes: Working in Poland’ fydd teitl y seminar, a bydd yn herio’r dybiaeth unochrog fod Gwlad Pwyl yn achos llwyddiannus o drawsnewid, gan edrych ar y costau cymdeithasol anferthol ar weithwyr, o ran tlodi ac ansicrwydd o ran cyflogaeth. Daw swyddogaeth amwys yr Undeb Ewropeaidd yn y broses o ailstrwythuro Gwlad Pwyl i’r golwg wrth gymharu’r sefyllfa â chylchoedd cynharach o ailstrwythuro’r diwydiant dur yng Ngorllewin Ewrop, Dwyrain Ewrop ac mewn rhannau eraill o’r byd. Croeso i bawb ddod i’r seminar.
Mae Prifysgol Otto-von-Guericke yn bartner cyfnewid Erasmus i Brifysgol Bangor, ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr o Fangor astudio dramor.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013