Ymwelydd academaidd o Tsieina - Dr Qin Li
Mae Dr Qin Li yn Athro Cysylltiol yn y Coleg Economeg a Rheolaeth, Prifysgol Goedwigaeth y Gogledd-ddwyrain, sydd yn ninas ogleddol Harbin yn Tsieina. Mae newydd ddychwelyd adref ar ôl arhosiad llwyddiannus o flwyddyn ym Mangor, a drefnwyd gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a'i gyllido gan Gyngor Ysgolheictod Tsieina.
Mae gan Qin Li gymwysterau mewn gweinyddu cyhoeddus ac fe'i denwyd gan enw da Bangor ym maes polisi cymdeithasol a chymdeithaseg, yn ogystal â'n hymchwil bresennol ym maes cymdeithas sifil. Mae hyn yn cyd-fynd yn agos â'i arbenigedd ei hun ym maes rheolaeth diogelwch bwyd a'r modd y mae cwmnïau amaethyddol cydweithredol a sefydliadau defnyddwyr yn dylanwadu ar hynny. Defnyddiodd ei ymweliad i ddyfnhau ei wybodaeth am bolisi bwyd a pholisi diogelwch bwyd yn y Deyrnas Unedig drwy raglen o ddarllen ac ymchwil ar nifer o themâu cyfredol pwysig, megis swyddogaeth polisi bwyd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) a'r cynllun safoni hylendid bwyd (FHRS) yn y Deyrnas Unedig. Roedd ganddo ddiddordeb neilltuol mewn beth fydd goblygiadau Brexit ar ddiogelwch bwyd yn y DU, a phwnc llosg rhyngwladol diogelwch bwyd a newid hinsawdd. Mwynhaodd drafodaethau rheolaidd gydag aelodau o'r Ysgol, yn arbennig Yr Athro Howard Davis.
Fe wnaeth ymweliad Qin Li roi cyfle iddo hefyd ddod yn gyfarwydd ag addysgu ac ymchwil yn system addysg uwch y DU. Bu'n arsylwi darlithoedd, mynd i gynhadledd pen-blwydd yr Ysgol yn 50, a chyfnewid syniadau gydag aelodau staff. Mae yna lawer o ddiddordeb yn Tsiena yn y dull y rheolir addysg uwch yn y DU gyda thablau cynghrair prifysgolion, y fframwaith rhagoriaeth ymchwil (REF) a sicrhau ansawdd dysgu.
Wrth adael dywedodd Qin Li 'Hoffwn ddiolch o galon i'r Ysgol am eich help yn ystod fy arhosiad ym Mhrifysgol Bangor. Rwyf wedi dysgu llawer gennych ac mae'n hynod ddefnyddiol i'm datblygiad proffesiynol.'
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2017