Ymwelydd o Dŷ'r Cyffredin yn dysgu mwy am Ymchwil Bangor
Ddydd Gwener 15 Chwefror, ymwelodd Dr Rhiannon Williams, Arbenigwr Materion Cymru Tŷ'r Cyffredin, â Phrifysgol Bangor a bu'n annerch cynulleidfa eang o academyddion ac ymchwilwyr. Rôl Dr Williams yw cydlynu casglu a chyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Materion Cymru.
Yn y digwyddiad hwn a drefnwyd gan Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes ac a ariannwyd gyda nawdd gan Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol rhoes y Dr Williams gyflwyniad ynghylch strwythurau craffu a llunio polisi.
Dywedodd yr Athro Nathan Abrams (Cyfarwyddwr Effaith, Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes) "Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog a oedd yn dangos pa mor hawdd yw hi i ymchwilwyr o'r celfyddydau, y dyniaethau, y busnes a'r gyfraith ymgysylltu â'r senedd. Rwy'n annog pawb i ddysgu ohono."
Yn ystod sesiwn y prynhawn, bu nifer o academyddion, gan gynnwys cydweithwyr o Goleg y Gwyddorau Dynol a Choleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg, yn rhoi trosolwg o'r projectau cyfredol. Wedi hynny, cawsant adborth gwerthfawr gan y Dr Williams ynglŷn â chyflwyno ymchwil i'r senedd.
"Roedd y digwyddiad yn ddiddorol iawn ac yn ddefnyddiol iawn. Braf oedd gweld amrywiaeth ymchwil Prifysgol Bangor," meddai Dr Williams.
Roedd yn gyfle gwych i academyddion Bangor ddeall sut mae mynd ati i sicrhau'r effaith fwyaf i'w hymchwil nhw, ac mi wnaeth pawb a oedd yn bresennol ddysgu llawer iawn o'r sesiwn. "Hoffem ddiolch i Dr Rhiannon Williams am ei hymweliad ac i Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl", meddai'r Athro Nathan Abrams. Aeth rhagddo gan ddweud, "bydd yr wybodaeth a'r adborth a gafodd ein cydweithwyr yn siŵr o helpu i ddod ag ymchwil arloesol Prifysgol Bangor i sylw'r gwneuthurwyr polisi yn Llundain a Chaerdydd."
Mae hwn yn un o nifer o ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag ymchwil a drefnir ar ran y staff sy'n cynnal ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Am y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf, gweler ein tudalennau ymchwil:
https://www.bangor.ac.uk/research-support/researcher-development/programme/2019-02
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019