‘Ymwybyddiaeth Ieithyddol Feirniadol - y darn coll allweddol mewn polisi a chynllunio ieithyddol i adfywio’r Gymraeg’ – Dr Steve Eaves
Canolfan Cynllunio Iaith
Dyddiad: Chwefror 24 2016, 13.00 - 14.30
Ystafell: ystafell seminar, Neuadd Ogwen
Croeso i bawb
Ar sail tystiolaeth wreiddiol ac eilaidd, gan gynnwys arolwg ansoddol a meintiol o hyfforddeion, dadleuir bod Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Ieithyddol Feirniadol yn borth mynediad pwysig i ddinasyddion i wybodaeth a disgwrs prin am y Gymraeg. O droi at fodel cynllunio ieithyddol y Llywodraeth, cymherir y rhethreg gynhwysol â’r cynhyrchion polisi a gafwyd. Cyflwynir tystiolaeth mai prin fu’r ymyriadau cynhwysol, ac y methodd y prif asiantau cynllunio ieithyddol ag adnabod potensial Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Feirniadol fel porth mynediad arwyddocaol i ddisgwrs cynhwysol. Dadleuir y gall ymwybyddiaeth feirniadol gyfrannu at fraenaru’r tir ar gyfer newid ymddygiad ieithyddol.
(Bydd y cyflwyniad yn y Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu)
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2016