Yr Athro Horst Unbehaun i ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar Gyfnewid Dysgu Erasmus
Bydd yr Athro Horst Unbehaun yn ymweld â Phrifysgol Bangor ar Gyfnewid Dysgu Erasmus rhwng yr ail a chweched o Fai. Mae’r Athro Unbehaun yn Athro yn Ngwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Gwyddorau Cymhwysol Georg Simon Ohm, Nuremberg.
Mi fydd o’n cyflwyno seminar gyhoeddus am 1.00pm ar Ddydd Gwener 3ydd o Fai yn ystafell 1.01, adeilad Alun. Teitl y seminar bydd “Perspectives on immigration to Germany, its consequences and responses” ac mae croeso i bawb mynychu.
Mae Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Georg Simon Ohm yn bartner Erasmus i’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac yn cynnig cyfleoedd i astudio dramor i fyfyrwyr Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013