Yr Athro Nancy Edwards: Cadeirydd benywaidd cyntaf Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi fod yr Athro Nancy Edwards (Athro mewn Archaeoleg) wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru - hi yw'r ddynes gyntaf i fod yn Gadeirydd ers sefydlu'r Comisiwn 110 o flynyddoedd yn ôl.
Penodir y gadeirydd gan Y Frenhines, ar gyngor Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, o dan Warant Frenhinol.
Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru swyddogaeth genedlaethol bwysig o ran datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig a morwrol Cymru. Mae'n cynhyrchu, diogelu a darparu gwybodaeth awdurdodol i unigolion, sefydliadau corfforaethol a llywodraethol sy'n gwneud penderfyniadau, ymchwilwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
https://rcahmw.gov.uk/appointment-of-chair-and-commissioners/
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2019