Yr Athro Peter Huxley yn cyflwyno canfyddiadau o ymchwil i gynhwysiad cymdeithasol i ddarparwyr gwasanaeth iechyd meddwl yn Hong Kong
Mae Peter Huxley, Athro Ymchwil Iechyd Meddwl yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas, wedi rhannu ei ganfyddiadau o’i broject, a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol mewn gweithdy yn Hong Kong.
Bu’r Athro Huxley a’i gyd-ymchwilwyr, sef Dr Marcus Chiu (Prifysgol Genedlaethol Singapôr) a’r Athro Kara Chan (Prifysgol Bedyddwyr Hong Kong), yn trafod canlyniad eu project, yn dwyn y teitl ‘Development of a Chinese Language Version of the Social and Community Opportunities Profile (SCOPE) for NGO services in Hong Kong’.
Bu deg cynrychiolydd o bum corff all-lywodraeth, yn cynnwys Cymdeithas Ailsefydlu ac Atal Troseddu Fu Hung, o Hong Kong, Cymdeithas Iechyd Meddwl Hong Kong, Gwasanaethau Cymdeithasol Bedyddwyr Oi Kwan, a Caritas Hong Kong, yn bresennol yn y gweithdy, ynghyd ag ysgolhaig o Brifysgol Hong Kong.
Bu’r cynrychiolwyr yn trafod y ffyrdd y gellid sefydlu mesuriadau ar ddeilliannau cynhwysiad cymdeithasol o fewn mesuriadau arferol yng ngwasanaethau’r cyrff NGO. Yn ystod y flwyddyn i ddod, bydd y tîm ymchwil ym Mangor, Singapôr a Phrifysgol Bedyddwyr Hong Kong yn monitro’r cynnydd yn yr effaith a gaiff hyn ar ddarpariaeth a deilliannau gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth. Mae’r tîm yn gobeithio y bydd y canlyniadau hefyd, yn y pen draw, yn cael effaith ar y broses o lunio polisïau mewn gwasanaethau gofal yn Hong Kong, gan helpu i lunio polisïau sy’n arwain at welliannau o ran cynhwysiad a lles.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015